Archif Newyddion

10 yn dod yn 3 – Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2007

Pwy?

“Buasai’n hawdd bod wedi llunio Rhestr Hir o ugain cyfrol, gan fod nifer o lyfrau’n crefu am gael eu cynnwys, a ninnau’n gorfod dethol deg yn unig…"  Dyna a ddywedodd John Rowlands, Cadeirydd Panel Beirniaid y cyfrolau Cymraeg eu hiaith pan gyhoeddwyd Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2007. 

Fodd bynnag, mae nawr yn bryd i’r beirniaid ddechrau crafu eu pennau unwaith eto a wynebu’r dasg anodd, sef dethol tri llyfr o’r deg hynny yn y ddwy iaith i fod ar Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2007.

Cyhoeddir y Rhestr Fer o 3 cyfrol Gymraeg a 3 cyfrol Saesneg mewn digwyddiad yng Ng?yl y Gelli ddydd Llun 28 Mai 2007 am 6.45 pm.  Yn y digwyddiad bydd yr awduron yn trafod eu gwaith gyda chyn-ohebydd Celfyddydau y BBC, Jon Gower a bydd derbyniad gwin a sesiwn llofnodi llyfrau ar stondin Llenyddiaeth yng Nghymru i ddilyn.

Tybed, pwy gaiff gamu ar lwyfan G?yl y Gelli eleni felly?  Os ydych chi am weld pwy yw’r ceffylau blaen yn y ras i ennill £10,000, sicrhewch eich tocynnau ar unwaith.

Mae’r tocynnau, sy’n rhad ac am ddim, ar gael nawr o Swyddfa Docynnau G?yl y Gelli: 0870 9901299

Gweinyddir gwobr Llyfr y Flwyddyn gan yr Academi gyda chefnogaeth ariannol Cyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru.