Archif Newyddion

William Samuel Jones (Wil Sam)
1920 - 2007

Wil Sam gan Wil Jones

Bu farw Wil Sam yn 87 oed.  Dyn ei fro, sef Llanystumdwy yn Eifionydd.  Roedd yn fwrlwm o asbri a hiwmor efo’i lygaid direidus, addfwyn, a’i dafodiaith gyfoethog.  Dau hoffter mawr Wil, ar wahân i’w deulu a’i fro, oedd moduron a’r theatr.  Bu’n cadw garej, ac ymhyfrydai yn ei adnabyddiaeth o ddirgelion moduron ceir ac yn enwedig beiciau modur.

Ym myd y ddrama bu’n helpu i sefydlu a chynnal Theatr y Gegin yng Nghricieth, yn sgwennu dramâu ar ei chyfer, a sgriptiau radio a dramâu teledu.  Ei greadigaeth fwyaf llwyddiannus oedd Ifans y Tryc, ar gyfer ei gyfaill mawr Stewart Jones.

Mwynhâi groesi’r môr i Iwerddon i weld dramâu yn Theatr yr Abaty a’r Gate, ac ai i Lundain ambell dro i weld cynyrchiadau yno.

Cyhoeddodd wyth cyfrol o ddramâu ac un o storiâu byrion.  Cafodd ddylanwad ar nifer o awduron ifainc, fel Meic Povey.

Yr oedd yn hynod o falch o gael ei ethol i’r Academi, a chael ei ethol wedyn yn Gymrawd.

Harri Pritchard Jones


Bywgraffiad byr

Dramodydd ac awdur storïau byrion.  Fe’i ganed yn Llanystumdwy ger Cricieth, Caern; ychydig o addysg ffurfiol a gafodd ond cadwai fodurfa a ddaeth yn gyrchfan i lenorion a phobl ddiwylliedig eraill yn yr ardal.  Daeth i ysgrifennu cerddi doniol a storïau digrif i’r Eisteddfod Genedlaethol, wedyn troes at lunio dramâu byrion i’w cynhyrchu gan gwmnïau amatur, ac yna aeth ymlaen i ysgrifennu ar gyfer radio a theledu gan ennill ei fywoliaeth fel awdur amser-llawn  Casglwyd rhai o’i ddramau gorau yn y gyfrol Dinas Barhaus a Thair Drama Arall (1968).

Yn nawn W. S. Jones cyfunir comedi ffwlbri a doniolwch geiriol sy’n manteisio ar gyfuniad rhyfedd o dafodiaith werinol, rywiog Gwynedd wedi ei britho ag ymadroddion Saesneg.  Yr oedd ganddo’r ddawn hefyd i ddefnyddio dyfeisiau symbolig sy’n awgrymu dulliau Theatr yr Afreswm; ond comediol yn hytrach na thrasiediol oedd ei osgo.  Ei gymeriad mwyaf adnabyddus yw Ifas y Tryc, a gyflwynwyd gan yr actor Stewart Jones.  Gwerinwr ffraeth ydyw, a’i ddoethineb priddlyd yn herio camweddau a ffolinebau’r Gymru gyfoes.  Cyhoeddwyd detholiad o’i sgyrsiau yn y gyfrol Ifas y Tryc (1973).