Bardd Cenedlaethol Cymru

Llun: Owain Llŷr
Am y cynllun Bardd Cenedlaethol Cymru
Sefydlwyd swydd y Bardd Cenedlaethol Cymru ym mis Mai 2005 gan yr Academi – yr Asiantaeth Genedlaethol er Hyrwyddo Llenyddiaeth a Chymdeithas Llenorion Cymru. Noddir y swydd gan nawdd Loteri’r Cyngor Celfyddydau Cymru. Gwyneth Lewis oedd y Bardd Cenedlaethol cyntaf yn 2005, ac fe’i dilynwyd gan yr Athro Gwyn Thomas yn 2006.
I ddethol y Bardd Cenedlaethol sefydlwyd panel gyda chynrychiolaeth o brif sefydliadau llenyddol a diwylliannol Cymru: Academi, Barddas - y Gymdeithas Gerdd Dafod, yr Eisteddfod Genedlaethol, G?yl y Gelli, Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Tŷ Llên Abertawe, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Cyngor Llyfrau Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a’r Gymdeithas Lenyddiaeth Gymreig (Association of Welsh Writing in English)
Ganed Gillian Clarke yng Nghaerdydd ac mae bellach wedi ymgartrefu yng Ngheredigion. Mae Gillian yn fardd, dramodydd, golygydd a chyfieithydd, ac astudir ei gwaith gan fyfyrwyr ysgol ar draws Prydain. Ymhlith ei chyhoeddiadau mae At the Source (Carcanet), A Recipe for Water (Carcanet), Collected Poems (Carcanet), Five Fields (Carcanet) a Making Beds for the Dead (Carcanet). Mae ei gwaith wedi’i gyfieithu i nifer o ieithoedd, gan gynnwys y Gymraeg gan y bardd o Landysul, Menna Elfyn.
Cynhelir dau ddigwyddiad i groesawu Gillian i’w swydd newydd. Bydd y cyntaf am 7.30 pm nos Fercher 16 Ebrill yng Nghapel Moreia Llanystumdwy, ar y cyd â Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, a’r ail am 6.30 pm nos Wener 18 Ebrill yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Am ragor o fanylion cysylltwch â’r Academi:
029 2047 2266 / post@academi.org
![]()



