Bardd Cenedlaethol Cymru

National Poet of Wales

O Gwyn i Gillian: Cyhoeddi Bardd Cenedlaethol newydd i Gymru

 Gillian Clarke
Llun: Owain Llŷr

Cyhoeddwyd mai Gillian Clarke, o Dalgarreg, Ceredigion, fydd Bardd Cenedlaethol nesaf Cymru.

Wedi dwy flynedd fel Bardd Cenedlaethol Cymru, mae’n amser i’r Athro Gwyn Thomas drosglwyddo’r awenau i Gillian Clarke fel trydydd Bardd Cenedlaethol Cymru.

Bu cyfnod Gwyn Thomas yn hynod llwyddiannus. Ysgrifennodd nifer o gerddi cyhoeddus am bynciau mor eang â’r Uwch Swyddog Heddlu Richard Brunstrom a cherdd i nodi agor Oriel 1 yn Sain Ffagan. Un o’r uchafbwyntiau oedd iddo fod yn destun cwestiwn ar y rhaglen gwis boblogaidd The Weakest Link – profiad cyntaf i’r bardd o Flaenau mae’n siwr.

Ganed Gillian Clarke yng Nghaerdydd ac mae bellach wedi ymgartrefu yng Ngheredigion. Mae Gillian yn fardd, dramodydd, golygydd a chyfieithydd, ac astudir ei gwaith gan fyfyrwyr ysgol ar draws Prydain. Ymhlith ei chyhoeddiadau mae At the Source (Carcanet), A Recipe for Water (Carcanet), Collected Poems (Carcanet), Five Fields (Carcanet) a Making Beds for the Dead (Carcanet). Mae ei gwaith wedi’i gyfieithu i nifer o ieithoedd, gan gynnwys y Gymraeg gan y bardd o Landysul, Menna Elfyn.

Dywed Gillian Clarke, sydd wrth ei bodd gyda’i swydd newydd:

“Mae’r Bardd Cenedlaethol yn lysgennad, oddi fewn a thu hwnt i Gymru. Gobeithiaf y bydd yn agor drysau.  Gwelaf y modd mae’r Academi wedi sefydlu’r swydd fel un sy’n datblygu’n gynyddol, gyda gwaith un bardd yn adeiladu ar y llall, gan dalu sylw gofalus i ddwyieithrwydd Cymru. Mae barddoniaeth i bawb”

Ar ôl clywed y newyddion, dywedodd yr Archdderwydd Dic Jones:

“Wy’n arbennig o falch fod rhwyun ‘wy’n ‘nabod, ac o’r ardal ‘ma, wedi derbyn yr anrhydedd hyn. Mae’n hen ddyledus iddi.”

Sefydlwyd swydd y Bardd Cenedlaethol Cymru ym mis Mai 2005 gan yr Academi – yr Asiantaeth Genedlaethol er Hyrwyddo Llenyddiaeth a Chymdeithas Llenorion Cymru. Noddir y swydd gan nawdd Loteri’r Cyngor Celfyddydau Cymru. Gwyneth Lewis oedd y Bardd Cenedlaethol cyntaf yn 2005, ac fe’i dilynwyd gan yr Athro Gwyn Thomas yn 2006.

Dywed Peter Finch, Prif Weithredwr yr Academi:

“Mae’r swydd Bardd Cenedlaethol Cymru yn gofyn am allu i gyfathrebu ac i ysgrifennu gwaith o safon ac yn reolaidd. Gillian Clarke yw un o’n beirdd amlycaf, a hi yw’r person gorau ar gyfer y swydd hon.”

Dywed yr Athro Dai Smith, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru:

"Mae Gillian Clarke wedi bwrw’i chrefft ar hyd y blynyddoedd i greu corff o waith sy’n ymdrin â phynciau mawr y bod dynol, yn ogystal â chanu am Gymru a’i phobl. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru’n falch iawn i noddi bardd mor nodedig â Gillian fel ein trydydd Bardd Cenedlaethol.”

Sefydlwyd panel i ddethol y Bardd Cenedlaethol gyda chynrychiolaeth o brif sefydliadau llenyddol a diwylliannol Cymru: Academi, Barddas - y Gymdeithas Gerdd Dafod, yr Eisteddfod Genedlaethol, G?yl y Gelli, Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Tŷ Llên Abertawe, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Cyngor Llyfrau Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a’r Gymdeithas Lenyddiaeth Gymreig (Association of Welsh Writing in English)

Cynhelir dau ddigwyddiad i groesawu Gillian i’w swydd newydd. Bydd y cyntaf am 7.30 pm nos Fercher 16 Ebrill yng Nghapel Moreia Llanystumdwy, ar y cyd â Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, a’r ail am 6.30 pm nos Wener 18 Ebrill yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Am ragor o fanylion cysylltwch â’r Academi:

029 2047 2266 / post@academi.org