Bardd Cenedlaethol Cymru

  National Poet of Wales 

Mamiaith 

Wyau

Prin mai nyth ydyw,
dim ond clais rhwng cerrig,
eto, pendilio a wna;
siarsio’r gwynt a’r awyr
â’i chrychlais blin.

Os camwn o’r golwg,
daw adre’n dawel,
i’r garreg lefn, gynnes,
cargo’n llawn gwaed a gwanc
a’r yfory’n llawn glesni.

A churiadau’r môr
yw pyls y gawell dywyll,
ei bru uwch y lli,
yn wawr o wy
sy’n iro’r iaith i’w sain.


Cyfieithiad Menna Elfyn o ‘Mother Tongue’ gan Gillian Clarke, Bardd Cenedlaethol Cymru

Y Fflam

i Gwyn Thomas

Bu’r fflam yn crynu cyhyd,
Wrth gromlechi, a chroesffyrdd;
Mewn gwersylloedd, tai unnos, cestyll,
A llysoedd rhyw fân dywysogion.

Caniadau uwch coelcerthi, cleddyfau glân,
Plycio tannau telynau;
Wynebau’n ddrychau mewn tanau,
Perlewyg eu trem.

Aeth y si ar led.
Croesodd sawl canrif, fesul fflam,
Curiadau calon cytseiniaid,
Yn llusern o gân yn y duwch.

Gwyn, dyma ni’n cwrdd wrth y rhyd,
I roi mawl i ieithoedd,
I gario’r gwir plaen,
Troi anwireddd yn farwor; geiriau’n llwch.

A llosgi tawch gwleidyddiaeth,
Gyda gwreichion eneidgan,
Sy’n taflu gwawr
Dros lawysgrifau’r cof.


Gillian Clarke, Bardd Cenedlaethol Cymru
[cyfieithwyd i’r Gymraeg gan Menna Elfyn]