Bardd Cenedlaethol Cymru

National Poet of Wales

Gillian Clarke

 

16 Ebrill 2008 - Capel Moreia, Llanystumdwy, 7.30 pm. Ar y cyd â Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd. Gyda Gillian Clarke, Gwyn Thomas a Damian Walford Davies. Darperir lluniaeth ysgafn. I sicrhau’r lle cysylltwch â’r Academi ar 029 2047 2266.

18 Ebrill 2008 - Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, 6.30 pm. Ar y cyd ag Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru. Gyda Gillian Clarke, Gwyn Thomas ac M Wynn Thomas. Darperir lluniaeth ysgafn. I sicrhau’r lle cysylltwch â’r Academi ar 029 2047 2266.

22 Mai 2008 - Neuadd Dewi Sant: Gwahoddiad gan y BBC i fynychu cyngerdd i ddathlu penblwydd Michael Berkeley yn drigain.

24 Mai 2008 -  G?yl Lenyddol y Gelli Gandryll. Llwyfan Segovia, 4pm.  ’At the Source’: cyflwynir cyfrol newydd Gillian Clarke gan Peter Florence. Cyfweliad, darlleniad a chyfle i lofnodi llyfrau. Am ragor o fanylion ewch i wefan yr ?yl yma.

25 May 2008 - G?yl Lenyddol y Gelli Gandryll, Stondin Llenyddiaeth yng Nghymru, 4pm - 5pm.  Mi fydd Gillian Clarke yn darllen a thrafod ei gwaith fel Llywydd Ymddiriedolaeth Taliesin, sy’n llywio Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd.  Mi fydd Sally Baker, Cyfarwyddwr y Ganolfan, yn trafod cyrsiau a rhaglenni’r ganolfan.

12 Mehefin 2008 - Ysgol Gyfun Radyr, Caerdydd: Clwb ysgrifennu i bobl ifainc.

12 Mehefin 2008 - Gwesty’r Imperial, Merthyr Tudful, 7:30pm.  Cyngor Bwrdeisdref Sirol Merthyr Tudful: Noson Agored ar y Meic - cerddi a pheintiau gyda Gillian Clarke ac eraill.  Mynediad am ddim.  Am ragor o wybodaeth cysylltwch â arts@merthyr.gov.uk / 01685 725382..

2 Gorffennaf 2008 - Gŵyl Chichester. Darlleniad amser cinio yn y Pallant Gallery, Chichester. Cyflwyno cerddi gan bobl ifainc ysgol Bishop Luffa.  Stafelloedd Ymgynnull, Chichester.

21-28 Gorffennad 2008 - Tŷ Newydd. Cwrs ysgrifennu barddoniaeth gyda Gillian Clarke a Carol Ann Duffy. Am ragor o wybodaeth eich i wefan Tŷ Newydd yma.

28 Gorffennaf - 2 Awst 2008 - Tŷ Newydd. Llên a Llun, cwrs paentio a barddoni gyda Mary Lloyd Jones a Gillian Clarke.  Am ragor o wybodaeth eich i wefan Tŷ Newydd yma.

19 Medi 2008 - Tafarn Glanyrafon, Talgarreg, 7:30pm.  Y Bardd Cenedlaethol yn ei chynefin.  Cynhelir digwyddiad yng nghwmni Gillian Clarke a phedwar bardd amlwg a fydd yn cyfieithu detholiad o’i gwaith i’r Gymraeg.  Bydd y Prifardd a’r Archdderwydd Dic Jones, Elin ap Hywel, Menna Elfyn ac Eurig Salisbury yn darllen eu haddasiadau hwy o waith y Bardd Cenedlaethol, gyda’r Prifardd Ceri Wyn Jones wrth y llyw.  Croeso i bawb.  Am ragor o fanylion cysylltwch â’r Academi: post@academi.org / 029 2047 2266.

16 Hydref 2008 - Gwobr Farddoniaeth Manceinion - cyhoeddi’r enillydd gyda darlleniadau byrion gan y tri beirniad: Gillian Clarke, Carol Ann Duffy and Imtiaz Dharker.

30 Hydref 2008 - Prifysgol Glasgow. Darlleniad a thrafodaeth gyda Michael Schmidt. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Academi: post@academi.org / 029 2047 2266

20 Tachwedd 2008 - Dechrau taith Poetry Live yng Nghaergrawnt.  O 20 Tachwedd tan 10 Rhagfyr ymwelir â’r dinasoedd canlynol: Caergrawnt, Llundain, Hull, Cambridge, Newcastle, Birmingham, Leeds, Bradford, Lerpwl, Manceinion, Lancaster, Ashford, Plymouth, Portsmouth, Caerfaddon (ewch i wefan Poetry Live yma am fanylion)

26 Mawrth 2008 (Dyddiad i’w gadarnhau). Rhoi darlleniad a chyflwyno gwobrau cystadleuaeth Prifysgol.  2pm - 3pm yn y Brif Neuadd, Campws Caerleon, Prifysgol Cymru Casnewydd, Heol y Porthdy, Caerleon.  Am fanylion pellach cysylltwch â Ieuan Morgan Thomas: english@newport.ac.uk.