Bardd Plant Cymru

Ifor ap Glyn
Bardd Plant Cymru 2008–2009

Ifor ap Glyn


Ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd yn Llandudno ar brynhawn Mawrth 27 Mai cyhoeddwyd taw’r Prifardd Ifor ap Glyn fydd Bardd Plant Cymru nesaf. Yn dilyn blwyddyn hynod lwyddiannus Caryl Parry-Jones yn y swydd, bydd Ifor yn dechrau mynd ati’n syth i ysbrydoli pobl ifainc Cymru i farddoni.

Mae Ifor yn fardd ac yn berfformiwr adnabyddus ar y sîn farddol Gymraeg. Fe’i aned a’i fagwyd yn Llundain, ac mae bellach wedi ymgartrefu yng Nghaernarfon. Mae wedi cymryd rhan mewn o nifer o deithiau llenyddol poblogaidd ar draws Cymru, gan gynnwys Fel yr Hed y Frân (1986), Cicio’r Ciwcymbars (1988), Dal Clêr (1993), Bol a Chyfri Banc (1995-6) a Taith y Saith Sant (2002). Dywed fod ei waith yn amrywio o’r “cynganeddol i’r cocosaidd”, ac mae’r pwyslais yn aml ar y llafar yn hytrach na’r llenyddol. Mae ei gyhoeddiadau’n cynnwys: Holl Garthion Pen Cymro Ynghyd (Y Lolfa, 1991); Bol a Chyfri Banc (ar y cyd â Myrddin ap Dafydd ac Iwan Llwyd, Gwasg Carreg Gwalch, 1995) a Cerddi Map yr Underground (Gwasg Carreg Gwalch, 2001)

Bydd yn ymweld ag ysgolion a grwpiau ieuenctid ledled y wlad yn ystod y flwyddyn - os oes diddordeb gan eich ysgol wahodd Ifor i gynnal gweithdy yn yr ysgol cysylltwch â barddplant@academi.org cyn gynted â phosib. Cofiwch taw’r cyntaf i’r felin fydd hi.

Cynllun ar y cyd rhwng yr Urdd, S4C, Cyngor Llyfrau Cymru a’r Academi yw Bardd Plant Cymru. Yn ogystal ag Ifor a Caryl, y beirdd sydd wedi derbyn yr anrhydedd yn y gorffennol yw Gwyneth Glyn, Mererid Hopwood, Tudur Dylan Jones, Ceri Wyn Jones, Menna Elfyn, Mei Mac a Myrddin ap Dafydd.