Bardd Plant Cymru

CERDD I GYFARCH BARDD PLANT CYMRU 2008-09

Mae’r angor ar fin codi
A’r hwyliau’n llawn a gwyn,
A bydd dy fordaith flwyddyn
Yn cychwyn gyda hyn,
A thithe, Capten Ifor
Yn gadarn wrth y llyw
A llu o longwyr llawen
Yn barod i ti’n griw,
Cewch hwylio ar fôr o eiriau
Dros donnau’r awen nawr,
I diroedd y dychymyg
I greu’ch campweithiau mawr,
Y cwmpawd weithiau’n pwyntio
At ynys odlau hud,
Lle mae llinellau disglair
Mewn cistiau trysor drud…

Mae’r llanw yn dy ddisgwyl
A mae dy ffrindiau lu
Yn barod, Capten Ifor,
I forio gyda thi!

Caryl Parry Jones
Bardd Plant Cymru 2007-08