Beth mae’r Academi’n ei ariannu?

Awduron ar Daith

Mae cynllun Awduron ar Daith yr Academi yn helpu i ariannu ymweliadau gan awduron cyfoes ag ysgolion, llyfrgelloedd, tafarnau, clybiau, cymdeithasau, canolfannau cymunedol, gwyliau celfyddydol, a lleoliadau eraill ledled Cymru. Dyma gynllun ariannu hynaf a symlaf Prydain ar gyfer digwyddiadau llenyddiaeth.  Cafodd ei sefydlu’n gyntaf gan Gyngor Celfyddydau Cymru tua 30 mlynedd yn ôl, ac mae Awduron ar Daith yn ariannu bob blwyddyn dros 900 o ddarlleniadau a gweithdai ledled Cymru y mae tua 55,000 o bobl yn eu mynychu. Bydd dros ddau gant o wahanol awduron yn cymryd rhan yn y digwyddiadau hyn.

Gall yr Academi ariannu hyd at 50% o gostau digwyddiadau llenyddol priodol. Rydym yn cadw cronfa ddata o’r rhan fwyaf o awduron yn y ddwy iaith sy’n Gymry ac yn byw yng Nghymru, ynghyd â bywgraffiadau byr a manylion cyswllt, ac mae modd mynd at y rhestr hon trwy glicio’r botwm Awduron Cymru ar y ddewislen ar y chwith. Ond nid oes yn rhaid i drefnwyr ddewis o’r rhestr hon yn unig. Bydd yr Academi’n ystyried ceisiadau ar gyfer unrhyw awdur sydd â’r cymwysterau priodol; mae’r rhan fwyaf o awduron blaenllaw’r DU wedi gweithio yng Nghymru yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Gall yr Academi gynnig cymorth â’ch dewis o lenorion ar gyfer digwyddiadau arbennig.

Cewch manylion am sut i wneud cais am gyllid a chanllawiau ariannu cyffredinol o’r ddewislen ar y chwith. Gallwch wneud cais am nawdd trwy’r post, ffacs (029 2049 2930) neu drwy ddefnyddio’r ffurflen archebu ar lein. 

Cysylltwch os gwelwch yn dda am ragor o wybodaeth, am gopi print o ganllawiau ein cynlluniau neu i drafod digwyddiadau penodol: post@academi.org.