Beth mae’r Academi’n ei ariannu?
Cefnogi Rhaglenni
Mae Cynllun Cefnogi Rhaglenni yr Academi yn cynnig cymorth ariannol i drefnwyr llenyddiaeth sy’n ymwneud â threfnu rhaglenni lleoliadau, gwyliau neu gyfresi. Anelir y cynllun at:
- Reolwyr Lleoliadau sy’n awyddus i sefydlu slotiau llenyddiaeth hirdymor rheolaidd yn eu rhaglenni
- Trefnwyr Gwyliau
- Hyrwyddwyr sy’n rhedeg teithiau llenyddol
- Entrepreneuriaid Llenyddol eraill sy’n awyddus i hyrwyddo digwyddiadau llenyddol ar raddfa helaethach nag y gellir ei noddi fel rheol o dan delerau’r Cynllun Awduron ar Daith.
Ystyrir ceisiadau yn ôl eu rhinweddau ac nid oes symiau penodol i’w dyfarnu. Ond byddai’r Academi yn disgwyl i unrhyw gais gael ei lunio ar y sail bod y trefnydd/lleoliad yn cael hyd i o leiaf hanner ffi a threuliau’r awdur. Gallwch edrych ar y Canllawiau Ariannu ar y ddewislen ar y chwith am ragor o fanylion.
Hoffai’r Academi weld cynigion am raglenni arloesol, cyffrous o weithgareddau llenyddol ar gyfer gwyliau bychain a theithiau llenyddol lle byddai gwneud cais fesul awdur unigol am gymorth o dan y cynllun Awduron ar Daith naill ai’n llafurus neu’n amhriodol.
Fel gyda holl gymorth ariannol yr Academi, mae modd gwneud cais ar gyfer awduron sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru yn ogystal ag awduron sy’n ymweld â Chymru. Ni chyfyngir ymgeiswyr i ddefnyddio’r llenorion a gynhwysir ar ein rhestrau Awduron Cymru yn unig. Ni all yr Academi gynnig arian tuag at gerddorion, actorion, cyflwyniadau dramatig, digwyddiadau nad ydynt yn agored i’r cyhoedd na sgyrsiau sy’n amlwg ar bynciau anllenyddol.
Rhaid i’r gweithgaredd ddigwydd o fewn i ffiniau daearyddol Cymru ac mae’n rhaid i bob cais yn ddiwahân gael ei gyflwyno a derbyn sêl bendith o leiaf wythnos ymlaen llaw. Mae gofynion arferol yr Academi ar gyfer cydnabod cymorth yn berthnasol.
Os hoffech drafod cynnig, taflu syniad atom neu os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch os gwelwch yn dda dros y ffôn ar 029 2047 2266, drwy’r post neu drwy e-bost: post@academi.org



