Canolfan Glyn Jones

Glyn Jones

1905 – 1995

Glyn Jones

Fel y gwelwch chi, fe fu Glyn fyw bron gydol y ganrif ddiwethaf. Ac fe brofodd holl gyffroadau a digwyddiadau bywyd Cymru a’r byd drwy gydol y cyfnod. Yn wir, fe gymerodd ran yn llawer ohonyn nhw.

Roedd yn falch o fod yn fachgen o Ferthyr Tudful. Ac eto roedd ganddo, fel Gwenallt, gariad mawr at gefn gwlad Sir Gaerfyrddin a’r bywyd gwledig. Roedd yn rhamantu peth ar hwnnw yn enwedig yn ei storïau byrion, megis Wat Pantathro, un o’i hoff gymeriadau. Ac roedd yn medru cymhathu chwedloniaeth a Hengerdd Gymraeg i fyd diwydiannol y cymoedd yn ei gyfieithiadau ac mewn nofel fel The Island of Apples.

Mi fu Glyn yn ffigwr allweddol ym mywyd llenyddol ein gwlad, ac yn bont fel y mae angen i’r rhai sy’n ben fod. Fe’i magwyd yn Gymro Cymraeg, ac roedd yn mynychu capel, mewn cymdeithas a oedd yn prysur droi at y Mudiad Llafur ac yn cefnu ar grefydd. Bryd hynny, hefyd, roedd y gymdeithas ddiwydiannol, a llawer o’r wlad yn gyffredinol, yn cefnu ar yr iaith Gymraeg.

Yn ôl ei gyfaill mawr Gwyn Jones, y sail ddeublyg i’r mudiad Eingl-Gymreig, i lunio llenyddiaeth Gymreig yn Saesneg, oedd gwrthryfel yn erbyn yr iaith Gymraeg ac yn erbyn y capel. I raddau helaeth, roedd y ddwy elfen wedi’u plethu i’w gilydd.

Wnaeth Glyn fyth gefnu’n llwyr ar yr iaith Gymraeg, ac mi barhaodd yn gapelwr selog ar hyd ei oes. Ac er iddo lunio’r rhan fwyaf o’i lenyddiaeth yn Saesneg, mi drodd yn ôl i drwytho’i hun mewn llenyddiaeth Gymraeg, a chyfieithu llawer o’r Hen Benillion i’r Saesneg. Roedd  hefyd yn gefnogol iawn i awduron ifainc Cymraeg.

Yn ei lyfr hollbwysig The Dragon Has Two Tongues, a gyhoeddwyd gyntaf yn 1968, fe ddwedodd Glyn iddo ddewis ysgrifennu’n greadigol yn Saesneg am mai ‘yn Saesneg y deffrowyd fy nychymyg.’ D. H. Lawrence oedd un o’r prif ddylanwadau arno, a Gerald Manley Hopkins o ran barddoniaeth. Ysgrifennodd nofelau a storïau byrion, barddoniaeth a beirniadaeth. Ac er fod ei orwelion llenyddol yn llydan, Glyn oedd yr awdur Saesneg a dueddai i warafun i’w gyd-awduron Saesneg ysgrifennu am unrhyw le nag unrhyw bobl ond Cymru a’r Cymry.

Nid pawb sy’n cofio gymaint o ddrwgdeimlad a fu yna ar un cyfnod rhwng awduron Cymraeg a rhai Saesneg ein gwlad. Yn raddol fe dyfodd parch, a hyd yn oed hoffter rhyngom, yn cael ei selio i raddau helaeth ar waith catalytig llywyddion y naill adran a’r llall o’r Academi, sef D. J. Williams a Glyn Jones. Roedd Glyn wedi pwysleisio yn ei gyfrol enwog, er fod y ddraig yn llefaru mewn dwy iaith, un ddraig oedd hi.

Roedd Glyn Jones yn ddyn am godi pontydd. Roedd yn ddyn hawddgar, a chanddo hiwmor hyfryd. Gellwch fwynhau ei lyfr dychanol am fyd ysgol yn The Learning Lark. Roedd hefyd yn freuddwydiwr, ac yn cuddio peth o hylltra’r byd diwydiannol roedd yn ei garu gydag elfennau telynegol yn ei ryddiaith yn ogystal â’i farddoniaeth.

Ond roedd yn ddyn cadarn ei argyhoeddiadau hefyd. Dyn o Ferthyr, lle mae gogledd Cymru’n dechrau i bobl anwybodus neu ragfarnllyd y brifddinas. Tref ddiwydiannol a fu’n dawddlestr mewn nifer o ffyrdd, ond yn enwedig i’r gwahanol genhedloedd a gyrhaeddodd brifddinas y Chwyldro Diwydiannol. Roedd Glyn yn amddiffyn Merthyr, megis yn ei gerdd enwog sy’n adrodd iddo gael ei eni yno a’i fod am gael ei gladdu yno yn ogystal. Cerdd a oedd fel ateb i gerdd Saunders Lewis am Y Dilyw, a daflai sen ar Ferthyr a’i phobl frith.

Yr un pryd, roedd Glyn, fel Gwyn Thomas hefyd, am gofio fod cefn gwlad tu hwnt i’r Bannau, i’r gogledd a’r gorllewin.

Roedd ei orwelion yn rhyngwladol, ac roedd yn ymwybodol o fudiadau celfyddydau Ewrop, ym maes celfyddyd gain yn ogystal â llenyddiaeth. Ond, yn bennaf un, llengarwr a Chymro o Gristion oedd Glyn.

Harri Pritchard Jones