Cyfleoedd i Awduron
Llenyddiaeth Cymru Dramor
Sefydlwyd Llenyddiaeth Cymru Dramor (LLCD) i hyrwyddo cyfieithu llenyddiaeth Cymru yn rhyngwladol. Noddir yr asiantaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru a chydweithir yn agos â Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru (WAI).
Ceir grantiau cyfieithu ar gyfer cyhoeddwyr, ac fe asesir ceisiadau bedair gwaith y flwyddyn (1af o Fawrth, Mehefin, Medi, Rhagfyr).
Mae LLCD yn mynychu ffeiriau llyfrau rhyngwladol, ac yn gweithio gyda chyfieithwyr, cyhoeddwyr a gwyliau llenyddol tramor i hyrwyddo llenyddiaeth ac awduron Cymru yn rhyngwladol.
Ceir mwy o wybodaeth am ddigwyddiadau, grantiau cyfieithu, cyfieithwyr, teitlau dethol, a phrosiectau ar y wefan www.llen-cymru-dramor.org, neu trwy anfon at y cyfeiriad isod.
Byddem yn arbennig o falch o glywed gan gyfieithwyr sydd yn cyfieithu o’r Gymraeg neu’r Saesneg i ieithoedd eraill.
Llenyddiaeth Cymru Dramor
Canolfan Mercator
Y Buarth
Aberystwyth
Ceredigion SY23 1NN
T +44 1970 622 241/544
F +44 1970 621 524
llcd-wla@llcd-wla.org



