Cyfraniadau

Bwriad A470 yw cadw’r darllenwyr mewn cysylltiad â’r byd llenyddol yng Nghymru. Felly, mae angen i bob cyfraniad gynnwys newyddion neu wybodaeth sy’n berthnasol i’r rhifyn cyfredol. Nid cylchgrawn adolygol mo A470 ond, yn hytrach, cylchgrawn sy’n rhestru digwyddiadau’r dyfodol agos, newyddion am gystadleuthau i awduron, manylion cyrsiau, gwyliau llenyddol neu unrhyw wybodaeth a newyddion sy’n berthnasol i awduron neu’r sawl sydd â diddordeb mewn llenyddiaeth. Mae’r Academi yn gofyn eich bod yn anfon unrhyw wybodaeth yr ydych chi am ei gynnwys yn A470 mewn da bryd.

Gweler y dyddiadau cau isod:

Rhifyn   Misoedd dan sylw yn y rhifyn hwnnw Dyddiad Cau Dyddiad Cyhoeddi  
46 Ionawr / Chwefror / Mawrth 2008 2 Tachwedd 2007 1 Ionawr 2008
47 Ebrill / Mai 2008 8 Chwefror 2008 1 Ebrill 2008
48 Mehefin / Gorffennaf / Awst 2008 4 Ebrill 2008 1 Mehefin 2008
49 Medi / Hydref / Tachwedd 2008 27 Mehefin 2008 1 Medi 2008
50 Rhagfyr 2008 / Ionawr / Chwefror 2009 3 Hydref 2008 1 Rhagfyr 2008


Dylai unrhyw un sydd â diddordeb cyfranu erthygl neu newyddion i A470 gysylltu â’r Academi cyn anfon eu gwaith i mewn er mwyn sicrhau bod lle iddo ac er mwyn cadarnhau bod y dyddiadau uchod yn dal i fod yn gywir. Gallwch ffonio neu e-bostio’r Academi ar 029 2047 2266 neu post@academi.org. Cofiwch hefyd roi gwybod i ni am eich digwyddiadau chi er mwyn i ni eu cynnwys yn y rhestr digwyddiadau.