Taliesin

Taliesin 130

Taliesin 128

Taliesin 127

Taliesin 132

Taliesin 125

Taliesin 131


 Rhai o rifynnau diweddaraf Taliesin


Taliesin
yw cylchgrawn llenyddol amlycaf Cymru, a chaiff ei gyhoeddi dair gwaith y flwyddyn gan yr Academi gyda chymorth grant gan Gyngor Llyfrau Cymru. Y golygyddion yw Manon Rhys a’r Prifardd Christine James.

Ymddangosodd y rhifyn cyntaf ym 1961 dan olygyddiaeth Gwenallt ac ers hynny, dan olygyddiaeth sawl enw amlwg arall ym myd llenyddiaeth Cymru, mae’r cylchgrawn wedi mynd o nerth i nerth. Mae Taliesin yn cynnwys cerddi, erthyglau, straeon byrion, ysgrifau, adolygiadau a chyfieithiadau i’r Gymraeg o lenyddiaethau eraill. Ymhlith y cyfranwyr, y mae llenorion pwysicaf y dydd ac, fel llwyfan ar gyfer eu gwaith, saif Taliesin ymhlith y cylchgronau llenyddol gorau a gyhoeddir yn y Gymraeg.

Am ragor o fanylion, ewch i wefan Taliesin.