Taliesin
Golygyddion
Manon Rhys yw’r fenyw gyntaf i ymgymryd â’r swydd o olygu Taliesin. Hi sydd bellach yn gofalu am y gwaith creadigol a fydd yn ymddangos yn y cylchgrawn. Mae ei phrofiad yn y maes hwn yn helaeth, cyhoeddodd gyfrol o straeon byrion Cwtsho (1988) a thair nofer Cysgodion (1993), Tridiau, ac Angladd Cocrotshen (1996) a Rara Avis (2005), a gyrhaeddodd Restr Fer Llyfr y Flwyddyn yn 2006. Cyhoeddodd hefyd addasiad o ddrama ei thad, Kitchener Davies, Cwm Glo (1994). Y mae’n ysgrifennu hefyd ar gyfer y teledu, ei geiriau hi a leferir yn aml gan drigolion Cwmderi yn Pobol y Cwm, a hi hefyd sy’n gyfrifol am Y Palmant Aur.
Darlithydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru, Abertawe, yw Christine James, a daw â’i phrofiad o drin a thrafod llenyddiaeth Gymraeg yn ei holl gyfnodau mewn cyd–destun academaidd i olygyddiaeth Taliesin. Llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol sydd wedi cael sylw pennaf Christine James o ran ei hymchwil bersonol, yn enwedig Cyfraith Hywel ac agweddau ar lenyddiaeth Morgannwg, ond hi hefyd yw golygydd Cerddi Gwenallt: Y Casgliad Cyflawn (2001). Enillodd Goron Eisteddfod Eryri a’r Cyffiniau yn 2005.



