Cylchgronau

CYFRWNG


Cyfeiriad: Gwasg Prifysgol Cymru, Post Di–Dal/Freepost (CF. 1529), Caerdydd, CF10 4ZX
Ffôn: 029 2087 5331   
Ffacs: 029 2049 6108
Ebost: ymholiadau@cyfrwng.com
Gwefan: www.cyfrwng.com
Golygyddion: Dr Gwenno Ffrancon, Dr Lisa Lewis, Dr John Jewell
Nifer o rifynnau mewn print: 5
Dyddiad sefydlwyd: Ebrill 2004
Math o erthyglau a gyhoeddir: Erthyglau rhyngddisgyblaethol sydd yn cyflwyno ymchwil a thrafodaeth ysgolheigaidd ar y cyfryngau yng Nghymru, sef ffilm, teledu, cyfryngau newydd, radio, newyddiaduraeth ac astudiaethau theatr a pherfformio.
Polisi Golygyddol: Cyfnodlyn a guhoeddwyd unwaith y flwyddyn yn cynnwys chwe erthygl fywiog (tair wedi eu cyhoeddi’n Gymraeg a thair yn Saesneg) ynghyd ag adolygiadau o gyhoeddiadau neu gynhyrchiadau newydd.
Danfon deunydd: Ni ddylai’r erthyglau fod mwy na 8,000 o eiriau mewn hyd gan gynnwys troednodiadau.  Dylid cyflwyno dau gopi printiedig o’r erthygl â chrnodeb o ryw 100-150 o eiriau, 5 neu 6 gair allweddol a chyfeiriad ebost a gohebu’r awdur.  Gellir cyflwyno yn Gymraeg neu’n Saesneg a dylid dilyn y canllawiau arddull sydd i’w cael ar y wefan http://www.cyfrwng.com
Amser ar gyfer ymateb: 3-4 wythnos

Gwybodaeth bellach: Croesewir adolygiadau o unrhyw waith pertnasol sydd wedi ei gyhoeddi (print neu electronig) neu gynhyrchiad.  Am wybodaeth bellach cysylltwch â’r golygydd adolygiadau, Dr Lisa Lewis adolygiadau@cyfrwng.com

Tanysgrifiad Blynyddol: £20 (sefydliad); £15 (unigolyn)

Sefydlwyd Gwobr Goffa James Thomas fel cydnabyddiaeth o gyfraniad Dr James Thomas (1971-2007), un o gyd-sylfaenwyr Cyfrwng a chyd-olygydd tri rhifyn cyntaf y cyfnodolyn. Nod y wobr yw annog myfyrwyr ôl-radd ac ysgolheigion ar ddechrau eu gyrfa i gyfrannu i’r trafodaethau ar gyfryngau Cymru trwy ymchwilio, ysgrifennu a chyflwyno ysgrif i’w chyhoeddi yn Cyfrwng. Ceir gwybodaeth bellach ar www.cyfrwng.com.

Cefnogir y cyfnodolyn gan gynhadledd deithiol flynyddol a gaiff ei chynnal ym mis Ebrill neu Mai. Yn ystod y gynhadledd cyflwynir Gwobr Cyfrwng i unigolyn i gydnabod cyfraniad arbennig ym maes hyrwyddo’r cyfryngau torfol yng Nghymru.