Cystadlaethau llenyddol eraill
Cyflwyniad
Mae’r tudalennau ‘Cystadlaethau Llenyddol eraill’ yn darparu gwybodaeth am gystadlaethau llenyddol na weinyddir gan Academi sydd ar y gweill a all fod o ddiddordeb. Fe’u rhestrir yn nhrefn y dyddiad cau, gan ddechrau â’r un sy’n dyfod gyntaf. Os oes gennych chi wybodaeth am gystadleuaeth lenyddol yr hoffech i ni ei hysbysebu yma, anfonwch y manylion ac unrhyw luniau/logos perthnasol i post@academi.org
Er mwyn gweld manylion pellach am un o’r cystadlaethau, cliciwch ar yr eitem perthnasol ar y dde.
Ar gyfer defnyddwyr y we
Mae gwasanaeth ‘Cystadlaethau Llenyddol eraill’ yn darparu llwyfan i sefyddliadau llenyddol hysbysebu unrhyw gystadlaethau a all fod o fudd i Awduron Cymru (e.e. barddoniaeth, storïau byrion, geiriau i gerddoriaeth, sgriptiau). Caiff y gwasanaeth yma ei ddarparu gyda phob ewyllys da ac yn rhad ac am ddim i ddefnyddwyr y we yn ogystal â chyrff llenyddol eraill sydd yn ei ddefnyddio i hybu cystadlaethau sydd ar ddod.
Nid yw Academi yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys y rhestr hwn, nac am ansawdd, diogelwch na chyfreithlondeb y cynnwys a hysbysir ar y tudalennau hyn. Mae defnyddwyr y we yn masnachu yn uniongyrchol gyda’r cyrff llenyddol a restrir ar eu menter eu hunain, ac nid yw Academi yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled neu niwed o ganlyniad i gysylltiad gyda hyrwyddwyr a ddefnyddia’r gwasanaeth yma.
Mae Academi yn cadw’r hawl i wrthod unrhyw gais i hysbysebu os teimlir ei fod yn amhriodol, ac yn gofyn i ddefnyddwyr ddod ag unrhyw bryderon ynglŷn â’r tudalennau i’w sylw ar unwaith.
Wrth ddefnyddio’r rhestr ar y tudalennau hyn rydych yn derbyn yr amodau a thelerau hyn.
Mae’r Academi yn dymuno rhybyddio awduron y dylent fod yn ymwybodol o’r modd y mae rhai cystadlaethau ysgrifennu yn medru twyllo – cliciwch yma am ragor o wybodaeth.



