Darlithoedd

GWYNETH LEWIS

LLAWLYFR Y LLAIS – crynodeb o ddarlith yng nghinio blynyddol yr Academi ym Mhortmeirion

Pan welais yn ddiweddar hen gyfrol yn dwyn y teitl Llawlyfr y Llais, wedi ei chyhoeddi yn 1893, pris hanner can ceiniog, mewn siop lyfrau ail-law, methais â’i gadael ar y silff. Fel bardd, fy mhrif waith yw creu llais i mi fy hun. Ers i mi gael fy mhenodi’n Fardd Cenedlaethol, rwy wedi bod yn meddwl llawer am yr egwyddorion creadigol sy’n ei gwneud h’n bosibl i ysgrifennu barddoniaeth ac am y ffordd orau imi gyfrannu at y broses genedlaethol o greu llais i Gymru.

Felly, pa ddoethineb oedd gan D. W. Lewis, FTSC, o Frynaman (dyw e ddim yn perthyn i mi, cyn belled ag y gwn i) i’w gynnig ym Mehefin 1893? Mae’r awdur yn ei ddisgrifio’i hun yn ysgrifennu o ‘rwymau Llên a Chan’; is-deitl y llyfr hwn yw ‘Iawn Ddefnyddio y Llais mewn Ymadrodd a Chan’. Rwy’n falch iawn o ddweud mai person ymarferol yw D. W. Lewis, ac mae ganddo adran yn amlinellu’r cysylltiad rhwng y llais, fel offeryn, a’r corff. Mae ‘traed oerion yn gwneyd llais cryglyd,’ meddai, ac esgidiau tenau yn broblem amlwg i’r llefarydd neu’r canwr. O dan y teitl ‘Pa beth i’w fwyta?’ cawn y cyngor hwn:

[mae] diffyg-treuliad bob amser yn effeithio ar ysbryd ac iechyd dyn. Cyn mynd i ganu neu siarad bwytaer yn ysgafn – llai na digon yn ol yr archwaeth . . .

Y mae ofnusrwydd a diffyg-treuliad yn berthynasau agos i’w gilydd. Dyma gyngor sydd wedi bod yn amhosibl i mi ei ddilyn heddiw: rwy edi bwyta mwy nag sydd raid, ac wedi ei fwynhau yn fawr. Bydd unhyw ddiffyg traul ar fy rhan yn ganlyniad nid o fwyta arlwy ardderchog Portmeirion ond fy nerfusrwydd i fy hunan. Mae . W. Lewis yn awgrymu bwyta raisins fel moddion ardderchog ar gyfer y llais, neu gymryd gwin ar ffurf tabledi: danteithyn sydd wedi hen fynd allan o ffasiwn erbyn heddiw.

Yn yr adran ‘Cadwraeth neu Ddiogeliad y Llais’ gwneir y datganiad hwn:

Y mae llais da yn drysor gwerthfawr; ac ar ol dyfod i feddiant o drysor felly, rhesymol ydyw ymdrechu ei gadw. Ni fu, mewn unrhyw oes o’r byd, adeg y rhoddid cymaint o fri ac o werth ar lais da ag a roddir yn bresennol. Bydded dyn yn areithiwr huawdl, yn bregethwr doniol, neu yn ganwr swynol, y mae pawb yn barod i gydnabod gwerth defnydd y sain a wna os yn feddiannol ar lais rhagorol.

Mae’r gosodiad hwn hyd yn oed yn fwy gwir heddiw nag ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae cenhedlaeth gyfan yn meddwl y gall unrhyw un fod yn Charlotte Church ac ennill ffortiwn yn y byd pop, dim ond i rywun feddu ar dipyn o lais a digon o enwogrwydd.

Ond er gwaetha’r bri a osodir ar leisiau ychydig o bobl broffidiol dros ben i’r cwmnïau recordio, fy ofn i yw ei bod hi’n mynd yn fwyfwy anodd i ni, unigolion, greu ac ymarfer ein lleisiau unigryw ni’n hunain. Fel bardd, rwy’n gwybod pa mor hawdd yw hi i deimlo nad yw unrhyw beth sydd gen i i’w ddweud o bwys i neb. Dywedir mai un o’r brawddegau mwyaf prin yn yr iaith Saesneg yw ‘The poet’s limousine has arrived’. Mae hyd yn oed yn fwy annhebygol yn y Gymraeg. Ond mae’r hyn sy’n wir am y bardd hefyd yn wir am bob aelod o’r cyhoedd. A dyma fwy o reswm dros ddyfalbarhau gyda’n llefaru drwy, yn erbyn ac er gwaethaf y diwylliant masnachol sy’n awyddus i gulhau beth sydd gennym i’w ddweud a sut y cawn ei yngan.

Yng Nghymru, rydym yn ffodus ein bod yn meddu o hyd ar ddiwylliant gwerin sydd wedi dod yn fyw dros y canrifoedd. Rwy’n meddwl, er enghraifft, am gelfyddyd Llio Rhydderch ar y delyn deires, a’r ffordd y mae hi wedi derbyn ei chrefft trwy linach lafar, yn ôl at delynorion Môn y ddeunawfed ganrif. Mae gennym drysorau fel yr hen benillion, lle mae’r llais unigol wedi troi’n lleferydd cyffredinol, yn crynhoi profiad cenedlaethau o bobl yn caru, yn dioddef, yn hiraethu a llawenhau. Rydym yn ffodus fod gennym yr adnodd yma yn erbyn y ffasiwn o egotistiaeth bersonol sy’n creu cymaint o syrffed ar y cyfryngau yn ddiweddar. Dyma, i fi, graidd un o’r agweddau pwysicaf ar waith Bardd Cenedlaethol Cymru, sef bod bardd yn cynrychioli nid fe neu hi ei hunan yn broffesiynol, ond y sawl sy’n siarad dros farddoniaeth yn gyffredinol a hawl yr unigolyn i fynegi ei realiti ei hun. Yn hytrach na cheisio troi fy hun yn fardd cyhoeddus, rwy am fod yn fardd ymhlith y cyhoedd, gan ddefnyddio barddoniaeth i oleuo ac i egluro’r pwysau a’r wefr a deimlwn bob dydd. Yn ei hanfod, lens yw’r bardd, y gall y byd weld yn fwy eglur trwyddo fe neu hi. Dylai fod yn llais a all ganu cân sydd o bwys i ni un ac oll oherwydd ei bod yn gyffredin.

ceir gweddill y ddarlith yn y rhifyn cyfredol o Taliesin - 126: Rhifyn y Gaeaf