Digwyddiadau

Iau 24 Gorffennaf 08
Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan: Y Prifardd Mererid Hopwood, y ferch gyntaf i ennill cadair y Brifwyl yn trafod ei phrofiadau a’i barddoniaeth.  Cyfle hefyd i weld y gadair a enillodd.  I gyd-fynd â’r arddangosfa gorSEDDI.  3pm yn Oriel 1, Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, Caerdydd.  Sgwrs am ddim.  Am ragor o fanylion cysylltwch â Dr Sioned Williams: Sioned.Williams@museumwales.ac.uk / 02920 573458.


Gwener 25 Gorffennaf 08
Clwb Darllen Cae’r Gors yn Cyflwyno: Noson Holi Awdur yng nghwmni Dewi Prysor dan ofal Arwel ‘Pod’ Roberts.  7.30 pm yng Nghlwb Mountain Rangers, Rhosgadfan.  Tocynnau: £4, ar werth yng Nghae’r Gors ac yng Nghlwb Mountain Rangers (mynediad am ddim i aelodau’r clwb).  Raffl er budd Cronfa Ann Thompson.  Am ragor o fanylion cysylltwch â Chae’r Gors: post@caergors.org / 01286 831 715.


Sadwrn 2 Awst 08 - Sadwrn 9 Awst 08
Maes CGweithgareddau Maes C yr Eisteddfod Genedlaethol.  Adloniant gyda’r hwyr a ddarperir mewn pabell fawr ar faes carafanau’r Eisteddfod Genedlaethol, 2-9 Awst 2008.  Bydd bar hwyr ar agor bob nos tan 2.00 am. Lleolir maes carafanau’r Eisteddfod ar gaeau chwarae Blackweir yng nghanol dinas Caerdydd.  Mae’r uchafbwyntiau llenyddol yn cynnwys: CaerDydd a Nos, gyda Heather Jones, Catrin Dafydd ac eraill; Beirdd yn y Doc, noson dan fastwn y "barnwr" Emyr Lewis a Stomp y Steddfod - 16 o feirdd yn cystadlu am y gorau dan arweiniad y Stompfeistr, Arwel "Pod" Roberts.  Am fanylion pellach cliciwch yma. Trefnir Maes C ar y cyd rhwng yr Eisteddfod a’r Academi.


Sadwrn 2 Awst 08 - Sadwrn 9 Awst 08
AcademiDigwyddiadau Academi ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol.  Cynhelir nifer o ddigwyddiau a drefnir gan Academi yn ystod yr wythnos, gan gynnwys Sgwad Sgwennu gydag Ed Holden ac Aneirin Karadog, a Brwydr Brains gyda Rhys Dafis.  Am fanylion a’r rhaglen cliciwch yma.  Am fanylion pellach cysylltwch â’r Academi: post@academi.org / 029 2047 2266.


Llun 4 Awst 08
Heather Jones gan Owain Llyr, hawlfraint gan AcademiAcademi a Thŷ Newydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol: MaesC: CaerDydd a Nos - 24 awr yn y Brifddinas. Noson o farddoniaeth a cherddoriaeth yng nghwmni Heather Jones, Catrin Dafydd, Gwyneth Glyn, Rhys Iorwerth ac Owain Rhys. Ymunwch â nhw am wibdaith o amgylch Caerdydd – y doniol a’r dwys, y gwleidyddol a’r cymdeithasol, y pleser a’r poen.  24 awr mewn un noson.  Peidiwch â’i cholli.  8pm ar Faes C, Eisteddfod Cenedlaethol Caerdydd a’r Cylch.  Tocynnau £8 / £7.  Am ragor o fanylion a thocynnau cysylltwch â’r Academi: 029 2047 2266 / post@academi.org neu Tŷ Newydd: 01766 522811 / post@tynewydd.org   Tocynnau ar gael hefyd o stondin yr Academi a Thŷ Newydd ar y Maes, neu gan ffonio llinell docynnau yr Eisteddfod: 0845 122 1176.  Trefnir gan Academi a Thŷ Newydd.


Llun 4 Awst 08
Taliesin 134Academi: Lansio Taliesin 134 yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a’r Cylch.  Digwyddiad lansio’r rhifyn nesaf o’r cylchgrawn llenyddol Taliesin - Rhifyn yr Haf 2008: Cyfrol 134 - yng nghwmni’r golygyddion, y Prifardd Christine James a Manon Rhys, a nifer o’r cyfranwyr - Luned Emyr, Meic Stephens, Ynyr Williams, E. Wyn James, Angharad Jones, Tony Bianchi a Mererid Hopwood. Bydd y rhifyn hwn ar werth ar ddiwedd Gorffennaf.  3pm yn Y Babell Lên, Eisteddfod Genedalethol Caerdydd a’r Cylch.  Am ragor o fanylion cliciwch yma neu cysylltwch â’r Academi: taliesin@academi.org / 029 2047 2266.


Llun 4 Awst 08
Y Lolfa: Lansiad Hawl i’r Gymraeg, cyfrol newydd bwysig Gwion Lewis, yng nghwmni Cynog Dafis a Hywel Griffiths. 1.00pm ym Mhabell Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar Faes Eisteddfod Caerdydd. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’r Lolfa: llyfrau@ylolfa.com.


Mercher 6 Awst 08
Maes CEisteddfod Gendlaethol Caerdydd a’r Cylch: Beirdd yn y Doc. Y Prifardd Emyr Lewis yw’r Barnwr fydd yn dwyn Eurig Salisbury, Emyr Oernant, Iwan Rhys, Y Prifardd Dafydd John Pritchard, Hywel Griffiths, Aneirin Karadog ac eraill o flaen eu gwell. 8.00 pm ym Maes C. Trefnir y noson gan Barddas gyda chefnogaeth r Academi. Tocynnau: £5 ar gael oddi wrth linell docynnau’r Eisteddfod: 0845 122 1176 neu stondin Barddas ar y Maes.


Mercher 6 Awst 08
Y Lolfa / Pobol y Cwm: Lansio Y Dyn Handi, gan Siôn White, cymeriad Pobol y Cwm, a Catrin Dafydd.  Ers misoedd bellach, mae selogion cyfres opera sebon boblogaidd  BBC Cymru , Pobol y Cwm, wedi bod yn dilyn hynt a helynt cymeriad Siôn White (sy’n cael ei bortreadu gan yr actor Jeremy Cockram) wrth iddo weithio ar ei nofel gyntaf.  A nawr, mewn cydweithrediad â Gwasg Y Lolfa, bydd y gyfrol yn gweld golau dydd ar Pobol y Cwm ar S4C ac yn cael ei chyhoeddi yn yr Eisteddfod yng Nghaerdydd ar yr un diwrnod yn union!  Yr awdures Catrin Dafydd sydd wedi ymgymryd â’r sialens o ysgrifennu’r nofel, gan gyd-weithio’n agos gyda thîm sgriptio’r gyfres.  Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Gwenan Davies, Cysylltiadau Cyhoeddus Cambrensis ar 01286 685254 neu gwenan@cambrensis.uk.com.


Gwener 8 Awst 08
Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2008, MaesC: Y Stomp fawreddog!  A fydd y Stompfeistr yn llwyddo i gadw trefn ar yr un bardd ar bymtheg a fydd yn cystadlu am y stôl fach bren?  Cofiwch archebu’ch tocynnau o flaen llaw, gan y bydd galw mawr am y rhain.  Manylion i’w cadarnhau maes o law.  Am ragor o fanylion am weithgareddau Maes C cysylltwch â’r Academi: 029 2047 2266 / post@academi.org neu’r Eisteddfod: 0845 122 2003 / 0845 122 1176.


Gwener 8 Awst 08
Cymdeithas Cyfiawnder Cymru: Gweithdy Barddoniaeth gydag Ifor ap Glyn. 1.00 pm yn Eisteddfod Caerdydd. Am ragor o fanylion cysylltwch â Hywel Huws: 01407 763426. Noddwyd gan Academi (ffoniwch 029 2047 2266 am wybodaeth ar noddi digwyddiadau).


Mawrth 2 Medi 08
Cymdeithas Dyffryn Banw: Darlith gan Hywel Teifi Edwards.  Am ragor o fanylion cysylltwch â Dwynwen Jones: 01938 820453.  Noddwyd gan Academi (ffoniwch 029 2047 2266 am wybodaeth ar noddi digwyddiadau).


Mawrth 2 Medi 08
Tŷ Newydd: Cip ar farddoniaeth.  Cyfle i’r di-Gymraeg gael cip ar ein hanes a’n diwylliant trwy gyfrwng cerddi a cherddoriaeth, yng nghwmni’r Prifardd Twm Morys.  7:30pm yn Nhŷ Newydd.  Digwyddiad dwyieithog wedi’i drefnu ar y cyd â Chwlwm Diwylliant. Tocynnau: £5.  Am ragor o fanylion neu i archebu tocynnau, cysylltwch â Thŷ Newydd: 01766 522811 / post@tynewydd.org neu ewch i www.tynewydd.org.


Iau 4 Medi 08
Merched y Wawr Llaniestyn: Mari Emlyn yn trafod Llythyrau Owen Edwards.  7.30 pm yng Nghanolfan Gymdeithasol Llaniestyn.  Am ragor o fanylion cysylltwch â Mrs Carys Hughes Evans: car.evans@tiscali.co.uk / 01758 730748.  Noddwyd gan Academi (ffoniwch 029 2047 2266 am wybodaeth ar noddi digwyddiadau).


Llun 8 Medi 08
Cylch Llenyddol Bro Ddyfi: Dan Puw yn sôn am Ysgrifennu am Gymeriadau Cefn Gwlad.  7:30pm yng Nhanolfan Owain Glyndŵr, Machynlleth.  Am ragor o fanylion cysylltwch â Mairlynne Davies: 01654 702185.  Noddwyd gan Academi (ffoniwch 029 2047 2266 am wybodaeth ar noddi digwyddiadau).


Mercher 17 Medi 08
Mererid HopwoodCymdeithas y Penrhyn: Mererid Hopwood yn sôn am ’Dim Ond Geiriau’.  7.30 pm yn Festri Capel Horeb, Penrhyn-coch.  Am ragor o fanylion cysylltwch â Ceris Gruffudd: 01970 828017.  Noddwyd gan Academi (ffoniwch 029 2047 2266 am wybodaeth ar noddi digwyddiadau).


Mercher 17 Medi 08
Hyrwyddo Llenyddiaeth Gwynedd: Clwb Darllen i ddysgwyr da.  7pm - 9pm yn Llyfrgell Bethesda.  Paned dda ar gael!  Am ragor o fanylion cysylltwch â Gwen Lasarus, Hyrwyddwr Llenyddiaeth Gwynedd: gwenlasarus@gwynedd.gov.uk / 01286 679465.


Iau 18 Medi 08
Cylch Cinio Merched Caerdydd: Sgwrs gyda Tudur Dylan.  Yng Nghlwb Golff Radur.  Am ragor o fanylion cysylltwch â Marian Evans: 029 20843275.  Noddwyd gan Academi (ffoniwch 029 2047 2266 am wybodaeth ar noddi digwyddiadau).


Iau 18 Medi 08
Theatr Genedlaethol Cymru: Gweithdy Sgwennu. Cyfres o weithdai fydd yn dadansoddi’r grefft o ysgrifennu  drama lwyfan, gan ganolbwyntio ar y fonolog. Cynhelir y gweithdai gan Cefin Roberts a Judith Roberts. 7.00 pm yng Nghanolfan Byd Bychan, Aberteifi. Mae hwn yn weithdy i ddynion yn unig, ond bydd gweithdy i fenywod yn dilyn cyn hir. Am ragor o fanylion cysylltwch â Fflur Owen: 01267 233882 / ymestyn@theatr.com


Gwener 19 Medi 08
Academi: Y Bardd Cenedlaethol yn ei chynefin.  Cynhelir digwyddiad yng nghwmni Gillian Clarke a phedwar bardd amlwg a fydd yn cyfieithu detholiad o’i gwaith i’r Gymraeg.  Bydd y Prifardd a’r Archdderwydd Dic Jones, Elin ap Hywel, Menna Elfyn ac Eurig Salisbury yn darllen eu haddasiadau hwy o waith y Bardd Cenedlaethol, gyda’r Prifardd Ceri Wyn Jones wrth y llyw.  7.30pm yn Nhafarn Glanyrafon, Talgarreg.  Croeso i bawb.  Am ragor o fanylion cysylltwch â’r Academi: post@academi.org / 029 2047 2266.


Sadwrn 20 Medi 08
Galeri Caernarfon: Storm o Straeon gyda Catherine Aran.  Cyflwyno straeon o waith gwreiddiol Catherine Aran.  11am - 12pm yn Galeri, Doc Fictoria, Caernarfon.  Am ragor o fanylion cysylltwch â Dawn Worsley: dawn.worsley@galericaernarfon.com / 01286 685208.  Noddwyd gan Academi (ffoniwch 029 2047 2266 am wybodaeth ar noddi digwyddiadau).


Sadwrn 20 Medi 08
Galeri Caernarfon: Storm o Stori: Gweithdy Creu a Chyflwyno Stori Lafar, gyda Mari Gwilym.  1:30pm yn Galeri, Doc Fictoria, Caernarfon.  Am ragor o fanylion cysylltwch â Dawn Worsley: dawn.worsley@galericaernarfon.com / 01286 685208.  Noddwyd gan Academi (ffoniwch 029 2047 2266 am wybodaeth ar noddi digwyddiadau).


Mawrth 23 Medi 08
Theatr Genedlaethol Cymru: Gweithdy Sgwennu. Cyfres o weithdai fydd yn dadansoddi’r grefft o sgwennu drama lwyfan, gan ganolbwyntio ar y fonolog. Cynhelir y gweithdai gan Cefin Roberts a Judith Roberts. 7.00 pm yn Chapter, Caerdydd. Mae hwn yn weithdy i ddynion yn unig, ond bydd gweithdy i fenywod yn dilyn cyn hir. Am ragor o fanylion cysylltwch â Fflur Owen: 01267 233882 / ymestyn@theatr.com


Iau 25 Medi 08
Theatr Genedlaethol Cymru: Gweithdy Sgwennu. Cyfres o weithdai fydd yn dadansoddi’r grefft o sgwennu drama lwyfan, gan ganolbwyntio ar y fonolog. Cynhelir y gweithdai gan Cefin Roberts a Judith Roberts. 7.00 pm yn Y Llwyfan, Caerfyrddin. Mae hwn yn weithdy i ddynion yn unig, ond bydd gweithdy i fenywod yn dilyn cyn hir. Am ragor o fanylion cysylltwch â Fflur Owen: 01267 233882.


Sadwrn 27 Medi 08
Yr Academi GymreigYr Academi Gymreig: Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2008 am 2:00pm ym Mhenbryn, Campus Penglais, Prifysgol Aberystwyth, Aberystwyth.  Mwy o fanylion i ddilyn.


Mawrth 30 Medi 08
Cymdeithas Gymraeg yr Wyddgrug a’r Cylch: Y Prifardd Eigra Lewis Roberts yn trafod ’Geiriau’. 7.15 pm yng Nghapel Bethel. Am ragor o fanylion cysylltwch ag Elwyn Roberts: 01352 755010.  Noddwyd gan Academi (ffoniwch 029 2047 2266 am wybodaeth ar noddi digwyddiadau).


Mawrth 30 Medi 08
Cymdeithas Gruffydd ap Cynan: Mari Emlyn yn sôn am Llythyrau O M Edwards, Elin Edwards ac Eluned Morgan.  7.30 pm yn Neuadd Ddinesig Conwy.  Am ragor o fanylion cysylltwch ag Alaw Pierce: coetmor@aol.com / 01492 580414.  Noddwyd gan Academi (ffoniwch 029 2047 2266 am wybodaeth ar noddi digwyddiadau).


Mawrth 30 Medi 08
Theatr Genedlaethol Cymru: Gweithdy Sgwennu. Cyfres o weithdai fydd yn dadansoddi’r grefft o sgwennu drama lwyfan, gan ganolbwyntio ar y fonolog. Cynhelir y gweithdai gan Cefin Roberts a Judith Roberts. 7.00 pm yn Theatr Seilo, Caernarfon. Mae hwn yn weithdy i ddynion yn unig, ond bydd gweithdy i fenywod yn dilyn cyn hir. Am ragor o fanylion cysylltwch â Fflur Owen: 01267 233882.


Mercher 1 Hydref 08
Theatr Genedlaethol Cymru: Gweithdy Sgwennu. Cyfres o weithdai fydd yn dadansoddi’r grefft o sgwennu drama lwyfan, gan ganolbwyntio ar y fonolog. Cynhelir y gweithdai gan Cefin Roberts a Judith Roberts. 7.00 pm yn Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug. Mae hwn yn weithdy i ddynion yn unig, ond bydd gweithdy i fenywod yn dilyn cyn hir. Am ragor o fanylion cysylltwch â Fflur Owen: 01267 233882.


Gwener 3 Hydref 08
Cymdeithas Cymru Fydd Caergybi: J. Elwyn Hughes yn trafod ’Bro Caradog Pritchard’. 7.00 pm yn Ysgoldy Capel Hyfrydle. Am ragor o fanylion cysylltwch â Menna Lloyd Jones:01407 765159. Noddwyd gan Academi (ffoniwch 029 2047 2266 am wybodaeth ar noddi digwyddiadau).


Gwener 3 Hydref 08
Cylch Cadwgan / Clwb y Dwrlyn: Stori Hwiangerddi gyda’r Parchedig Huw Jones ac Arfon Gwilym.  7.30pm yn Acapela, Capel Horeb, Pentyrch.  Am ragor o fanylion cysylltwch â Rowland Wynne: 029 2089 1426.  Noddwyd gan Academi (ffoniwch 029 2047 2266 am wybodaeth ar noddi digwyddiadau).


Sadwrn 4 Hydref 08 - Sadwrn 11 Hydref 08
Tŷ Newydd: Teith Gerdded Madarch a Mwy.  Dewch am dro trwy gefn gwlad yr hydref i gael cip ar fyd rhyfeddol madarch a ffwng gwyllt ein gwlad.  Bydd Cynan Jones, arbenigwr ar fadarch, yn tywys y teithiau ac yn sôn am lên gwerin a chredoau sydd wedi cael eu cyplysu â madarch a ffwng.  Un daith ar ddydd Sadwrn 4 Hydref, a’r llall ar ddydd Sadwrn 11 Hydref; un daith yn cychwyn o Dŷ Newydd a’r llall o Plas yn Rhiw.  Digwyddiadau dwyieithog wedi’u trefnu ar y cyd â Chwlwm Diwylliant.  Tocynnau: £3.  Am ragor o fanylion neu i archebu tocynnau, cysylltwch â Thŷ Newydd: 01766 522811 / post@tynewydd.org neu ewch i www.tynewydd.org.


Llun 6 Hydref 08
Cylch Llenyddol y Faenol Fawr: Darlith gan Mair Carrington Roberts: ’Hud a Hanes Cerddoriaeth Draddodiadol Cymru’.  7.30 pm yn Y Faenol Fawr.  Am ragor o fanylion cysylltwch â Meurig Owen: 01745 582531.  Noddwyd gan Academi (ffoniwch 029 2047 2266 am wybodaeth ar noddi digwyddiadau).


Mercher 8 Hydref 08 - Sadwrn 11 Hydref 08
Academi: Gŵyl Llên y Lli 2008 - Deffro’r Dychymyg.  Cynhelir yr ŵyl ym Mae Caerdydd o ddydd Mercher 8 Hydref hyd ddydd Sadwrn 11 Hydref gyda digwyddiad ychwanegol i ddilyn yr wythnos ganlynol.  Thema’r ŵyl eleni yw Deffro’r Dychymyg felly gydol y digwyddiadau bydd cyfle i gyfarfod llenorion newydd ac i brofi themâu gwreiddiol a syniadau unigryw o fewn llenyddiaeth, gwleidyddiaeth, ffilm, technoleg ac chyfryngau amrywiol.  Am ragor o wybodaeth ac am gopi o’r rhaglen cysylltwch â’r Academi ar 029 2047 2266 / post@academi.org


Iau 9 Hydref 08
Cylch Llenyddol Bro Glyndwr: Darlith gan Rhys Jones.  7.30 pm yn Festri Capel Seion, Corwen.  Am ragor o fanylion cysylltwch â Enid Edwards: 01490 430682.  Noddwyd gan Academi (ffoniwch 029 2047 2266 am wybodaeth ar noddi digwyddiadau).


Iau 9 Hydref 08
Theatr Genedlaethol Cymru: Gweithdy Sgwennu. Cyfres o weithdai fydd yn dadansoddi’r grefft o sgwennu drama lwyfan, gan ganolbwyntio ar y fonolog. Cynhelir y gweithdai gan Cefin Roberts a Judith Roberts. 7.00 pm yn Adeilad Parry-Williams, Prifysgol Aberystwyth. Mae hwn yn weithdy i ddynion yn unig, ond bydd gweithdy i fenywod yn dilyn cyn hir. Am ragor o fanylion cysylltwch â Fflur Owen: 01267 233882.


Iau 9 Hydref 08
Hyrwyddo Llenyddiaeth Gwynedd: Cerddi yn y Cwpwrdd Cotiau.  Gweithdai barddoniaeth Cymraeg TGAU gyda Iwan Llwyd a Mei Mac.  Cyfle i holi’r beirdd am y cerddi oll.  9.30 am - 12.30 pm yn Galeri, Caernarfon.  Nifer cyfyngedig o lefydd.  Am ragor o fanylion cysylltwch â Gwen Lasarus, Hyrwyddwr Llenyddiaeth Gwynedd: gwenlasarus@gwynedd.gov.uk / 01286 679465.


Iau 9 Hydref 08 - Iau 27 Tachwedd 08
Mei MacHyrwyddo Llenyddiaeth Gwynedd: Cracio Cynghanedd.  Gweithdai cynghaneddu i ddechreuwyr gyda Mei Mac.  7pm - 9pm  Galeri Caernarfon.  Pris: £4 y sesiwn x 8 wythnos: cyfanswm £32.  Nifer cyfyngedig o lefydd.  Am ragor o fanylion cysylltwch â Gwen Lasarus, Hyrwyddwr Llenyddiaeth Gwynedd: gwenlasarus@gwynedd.gov.uk / 01286 679465.


Gwener 10 Hydref 08
Cymdeithas Gymraeg Dinbych: Darlith gan Hywel Teifi Edwards.  7pm yn Llyfrgell y Dref, Dinbych.  Am ragor o fanylion cysylltwch â J Glyn Jones: ynyscynon@btinternetcom /  01745 812172.  Noddwyd gan Academi (ffoniwch 029 2047 2266 am wybodaeth ar noddi digwyddiadau).


Llun 13 Hydref 08
Cylch Llenyddol Bro Ddyfi: Y Prifardd D. Cyril Jones yn sôn am Roi’r Gerdd ar Gerdded.  7:30pm yng Nhanolfan Owain Glyndŵr, Machynlleth.  Am ragor o fanylion cysylltwch â Mairlynne Davies: 01654 702185.  Noddwyd gan Academi (ffoniwch 029 2047 2266 am wybodaeth ar noddi digwyddiadau).


Llun 13 Hydref 08
Merched y Wawr Llanwnda a’r Cylch. ’Awen Lawen’ gan Meirion Macintyre Huws. 7.30 yng Nghanolfan Bro Llanwnda. Am ragor o fanylion cysylltwch â Rhianon Jones: 01286 830944. Noddwyd gan Academi (ffoniwch 029 2047 2266 am wybodaeth ar noddi digwyddiadau).


Mercher 15 Hydref 08
Hyrwyddo Llenyddiaeth Gwynedd: Clwb Darllen i ddysgwyr da.  7pm - 9pm yn Llyfrgell Bethesda.  Paned dda ar gael!  Am ragor o fanylion cysylltwch â Gwen Lasarus, Hyrwyddwr Llenyddiaeth Gwynedd: gwenlasarus@gwynedd.gov.uk / 01286 679465.


Mercher 15 Hydref 08
Cymdeithas Gymraeg y Trallwm: Portread Llenyddol o Tom Nefyn gan y Parchedig Harri Parri.  7.30 pm yn Festri Capel Cymraeg y Trallwm.  m ragor o fanylion cysylltwch â Trefor Owen: 01938 522589.  Noddwyd gan Academi (ffoniwch 029 2047 2266 am wybodaeth ar noddi digwyddiadau).


Gwener 17 Hydref 08
Tudur Dylan JonesGŵyl Bro’r Preseli: Hwyl y Beirdd gyda’r Taeogion: Tudur Dylan, Emyr Davies a Ceri Wyn Jones. 7.30 pm yng Nghlwb Rygbi Crymych. Am ragor o fanylion cysylltwch â Kevin Davies: 01239 831455.  Noddwyd gan Academi (ffoniwch 029 2047 2266 am wybodaeth ar noddi digwyddiadau).


Sadwrn 18 Hydref 08
Ifor ap GlynGaleri Caernarfon: Gweithdy Creu Carol gyda Ifor ap Glyn.  Fe fydd Ifor yn cydweithio gyda’r gyfansoddwraig Manon Llwyd a phobl ifanc (Blwyddyn 10 ac uwch) i greu carol a fydd yn cael ei chanu mewn prynhawn o ganu carolau yn Galeri ym mis Rhagfyr.    Gweithdy ar gyfer SBARC! sef prosiect celfyddydol pobl ifanc Caernarfon.  10.00 am - 12.30 pm a 1.30 pm - 4.00 pm yn Galeri, Doc Victoria, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SQ.  Am ragor o fanylion cysylltwch â Rhian Cadwaladr: Rhian.Cadwaladr@galericaernarfon.com / 01286 685219.  www.galericaernarfon.com   www.sbarcgaleri.com   Noddwyd gan Academi (ffoniwch 029 2047 2266 am wybodaeth ar noddi digwyddiadau).


Llun 20 Hydref 08
Merched y Wawr, Mochdre: Sgwrs gyda’r Prifardd Selwyn Griffith.  7.30 pm yng Nghapel y Rhos, Llandrillo yn Rhos.  Am ragor o fanylion cysylltwch â Mrs D Davies: 01492 530161.  Noddwyd gan Academi (ffoniwch 029 2047 2266 am wybodaeth ar noddi digwyddiadau).


Iau 23 Hydref 08
Cylch Llenyddol Maldwyn: Darlith gan Menna Baines: ’A i Z: Creu’r Gwyddoniadur’.  7pm yng Ngregynog.  Am ragor o fanylion cysylltwch â Gwyndaf Roberts: hafwen.roberts@virgin.net / 01938 810112.  Noddwyd gan Academi (ffoniwch 029 2047 2266 am wybodaeth ar noddi digwyddiadau).


Iau 23 Hydref 08
Hyrwyddo Llenyddiaeth Gwynedd: Nerth Bon Braich - 7 awdures wedi ysgrifennu un nofel.  Dewch i glywed sut ddaethon nhw at eu gilydd i gyflawni’r gamp!  Karen Owen yn holi Gwen Lasarus, Janice Jones, Rhiannon Thomas, Eurgain Hâf Thomas, Caron Edwards, Sian Eirian Rees Davies ac Annes Glynn.  7pm yn Llyfrgell Pwllheli.  Gwydriad o win am ddim.  Am ragor o fanylion cysylltwch â Gwen Lasarus, Hyrwyddwr Llenyddiaeth Gwynedd: gwenlasarus@gwynedd.gov.uk / 01286 679465.  Cefnogwyd gan Academi.


Gwener 24 Hydref 08
Hyrwyddo Llenyddiaeth Gwynedd: Nerth Bon Braich - 7 awdures wedi ysgrifennu un nofel.  Dewch i glywed sut ddaethon nhw at eu gilydd i gyflawni’r gamp!  Karen Owen yn holi Gwen Lasarus, Janice Jones, Rhiannon Thomas, Eurgain Hâf Thomas, Caron Edwards, Sian Eirian Rees Davies ac Annes Glynn.  7pm yn Llyfrgell Bala.  Gwydriad o win am ddim.  Am ragor o fanylion cysylltwch â Gwen Lasarus, Hyrwyddwr Llenyddiaeth Gwynedd: gwenlasarus@gwynedd.gov.uk / 01286 679465.  Cefnogwyd gan Academi.


Gwener 24 Hydref 08
Hyrwyddo Llenyddiaeth Gwynedd: Dyddiadur Diwrnod yn Ysbyty Gwynedd.  Bydd cyfle i gleifion, staff ac ymwelwyr ysgrifennu eu stori nhw ar y diwrnod arbennig hwn, ac yna bydd y straeon oll yn cael eu argraffu mewn llyfryn ac yn mynd ar y we.  Am ragor o fanylion cysylltwch â Gwen Lasarus, Hyrwyddwr Llenyddiaeth Gwynedd: gwenlasarus@gwynedd.gov.uk / 01286 679465.