Digwyddiadau

Mercher 3 Medi 08
Merched y Wawr Radur: ’Lluniau mewn Geiriau’ gan Manon Rhys. 7.30 pm yn Eglwys y Methodistiaid, Radur. Am ragor o fanylion cysylltwch ag Eleri Bevan: 029 2033 9568. Noddwyd gan Academi (ffoniwch 029 2047 2266 am wybodaeth ar noddi digwyddiadau).


Iau 4 Medi 08
Gomer: Lansiad y nofel ’Ffreshars’ gan Joanna Davies.  Darlleniad byr o’r nofel gan yr awdur a’r actorion Elin Leyshon ac Aled Wyn Thomas, mewn cydweithrediad Chwmni Theatr 3D.  8.00 pm yn nhafarn Dempsey’s, Caerdydd.  Am ragor o fanylion cysylltwch â Joanna Davies: Joanna.Davies@artswales.org.uk / 02920 376593.


Iau 18 Medi 08
Cylch Cinio Merched Caerdydd: Sgwrs gyda Tudur Dylan.  Yng Nghlwb Golff Radur.  Am ragor o fanylion cysylltwch â Marian Evans: 029 20843275.  Noddwyd gan Academi (ffoniwch 029 2047 2266 am wybodaeth ar noddi digwyddiadau).


Mawrth 23 Medi 08
Theatr Genedlaethol Cymru: Gweithdy Sgwennu. Cyfres o weithdai fydd yn dadansoddi’r grefft o sgwennu drama lwyfan, gan ganolbwyntio ar y fonolog. Cynhelir y gweithdai gan Cefin Roberts a Judith Roberts. 7.00 pm yn Chapter, Caerdydd. Mae hwn yn weithdy i ddynion yn unig, ond bydd gweithdy i fenywod yn dilyn cyn hir. Am ragor o fanylion cysylltwch â Fflur Owen: 01267 233882 / ymestyn@theatr.com


Gwener 26 Medi 08
Cylch Llyfryddol Caerdydd: Rheinallt Llwyd yn trafod Gyrfa Islwyn Ffowc Elis. 7.00 pm yn Ystafell 0.31, Adeilad y Dyniaethau, Prifysgol Caerdydd. Am ragor o fanylion cysylltwch â Robin Griffith: 029 2089 0133.


Sadwrn 27 Medi 08
Yr Academi GymreigYr Academi Gymreig: Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2008 am 2:00pm ym Mhenbryn, Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth, Aberystwyth.  Am ragor o fanylion cliciwch yma, neu cysylltwch â’r Academi: post@academi.org / 029 2047 2266.


Gwener 3 Hydref 08
Cylch Cadwgan / Clwb y Dwrlyn: Stori Hwiangerddi gyda’r Parchedig Huw Jones ac Arfon Gwilym.  7.30pm yn Acapela, Capel Horeb, Pentyrch.  Am ragor o fanylion cysylltwch â Rowland Wynne: 029 2089 1426.  Noddwyd gan Academi (ffoniwch 029 2047 2266 am wybodaeth ar noddi digwyddiadau).


Mawrth 7 Hydref 08 - Mawrth 14 Hydref 08
Academi: Gŵyl Llên y Lli 2008 - Deffro’r Dychymyg.  Cynhelir yr ŵyl ym Mae Caerdydd o ddydd Mercher 8 Hydref hyd ddydd Sadwrn 11 Hydref gyda digwyddiad ychwanegol i ddilyn yr wythnos ganlynol.  Thema’r ŵyl eleni yw Deffro’r Dychymyg felly gydol y digwyddiadau bydd cyfle i gyfarfod llenorion newydd ac i brofi themâu gwreiddiol a syniadau unigryw o fewn llenyddiaeth, gwleidyddiaeth, ffilm, technoleg ac chyfryngau amrywiol.  Am ragor o wybodaeth ac am gopi o’r rhaglen cysylltwch â’r Academi ar 029 2047 2266 / post@academi.org


Mercher 8 Hydref 08
Llên y Lli: Deffro’r DychymygGŵyl Llên y Lli: Deffro’r Dychymyg. Tamaid o Lên.  Tybed a fu eich wythnos gyntaf fel newydd-ddyfodiaid i’r Brifysgol mor wyllt ag anturiaethau herfeiddiol cymeriadau Ffreshars (Gomer, 2008)?  Bydd Joanna Davies yn Borders dros ginio ac yn barod i rannu clecs am eich antics.  Yn Borders, Yr Ais, Caerdydd, 1.00 pm.  Mynediad am ddim.  Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Academi ar: 029 2047 2266 / post@academi.org


Mercher 8 Hydref 08
Llên y Lli: Deffro’r DychymygGŵyl Llên y Lli: Deffro’r Dychymyg. Taith Beirdd y Byd.  Daw taith y Poetry Translation Centre i Gaerdydd i gyfoethogi ein dealltwriaeth o ddiwylliannau a thraddodiadau llenyddol tu hwnt i Ewrop.  Bydd Choman Hardi yn cyflwyno Farzaneh Khojandi o Tajikistan, Noshi Gillani o Bakistan a Kajal Ahmed o Kurdistan.  Yn Caffi Kemi, Crefft yn y Bae, 6.00 pm.  Tocynnau: £4/ £3 consesiynau. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Academi ar: 029 2047 2266 / post@academi.org


Mercher 8 Hydref 08
G?yl Llên y Lli: Deffro’r DychymygGŵyl Llên y Lli: Deffro’r DychymygSgriptiau Sydyn.  Bydd Daniel Glyn yn cyflwyno gweithiau rhai o sgriptwyr ifainc mwyaf cynhyrfus Cymru, sef Ceri Elen, Huw Foulkes, Lleucu Siôn, Elis Gomer a Gwilym Dwyfor.  Dewch draw i fwynhau bwrlwm y perfformiadau dros beint cwtshlyd.  Ym Mar Cwtch, Bae Caerdydd, 7.30 pm.  Tocynnau: £4/ £3 consesiynau. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Academi ar: 029 2047 2266 / post@academi.org


Mercher 8 Hydref 08
Gŵyl Llên y Lli: Deffro#r DychymygGwyl Llên y Lli: Deffro’r Dychymyg.  Llwyfan i’n Llên.  Dyma gyfle i wrando ar lenyddiaeth gan lenorion sy’n prysur ddod i’r amlwg yng Nghymru a thu hwnt - Joe Dunthorne, Zoe Brigley, Louise Walsh, Meirion Jordan a Tom Anderson.  Cyflwynir y noson gan Kathryn Gray.  Yn Bar One, Canolfan Mileniwm Cymru, 7.30 pm.  Tocynnau: £4 / £3 consesiynau. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Academi ar: 029 2047 2266 / post@academi.org. Digwyddiad cyfrwng Saesneg.


Iau 9 Hydref 08
Gŵyl Llên y Lli: Deffro’r DychymygGŵyl Llên y Lli: Deffro’r Dychymyg.  Tamaid o Lên.  Manteisiwch ar y cyfle unigryw hwn i glywed y darlleniad cyntaf o’r casgliad Moonrise (Seren, 2008) gan Meirion Jordan.  Yn Borders, Yr Ais, Caerdydd, 1.00 pm.  Mynediad am ddim.  Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Academi ar: 029 2047 2266 / post@academi.orgDigwyddiad cyfrwng Saesneg,


Iau 9 Hydref 08
G?yl Llên y Lli: Deffro’r DychymygG?yl Llên y Lli: Deffro’r Dychymyg: Grym Geiriau.  A oes lle i lenyddiaeth fel arf gwleidyddol? Betsan Powys fydd yn ceisio cadw’r ddysgl yn wastad yng nghwmni rhai o leisiau gwleidyddol amlycaf Cymru gyfoes: Catrin Dafydd, Dewi Prysor a Dyfrig Jones.  Dewch i ddweud eich dweud ac i fwrw’ch pleidlais gyda’r podiau arbennig.  Yn Siambr Hywel, Tŷ Hywel, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 6.00 pm.  Mynediad am ddim.  Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Academi ar: 029 2047 2266 / post@academi.org


Iau 9 Hydref 08
Gŵyl Llên y Lli: Deffro’r DychymygGŵyl Llên y Lli: Deffro’r Dychymyg: Y Gig Cymysg.  Daw PoetryFilm i Gaerdydd i gyflwyno noson ddwyieithog aml-gelfyddydol.  Bydd Lois Barrar, Rhys Iorwerth, Iwan Rhys, Tiffany Atkinson, Richard Maggraf Turley, Anna Lewis ac eraill yn darllen eu gwaith gyda detholiad o ffilmiau byrion yn gefndir.  Setiau byw gan Jamie and the Lionhearts a Derwyddon Dr Gonzo i ddilyn.  Yn The Point, Bae Caerdydd, 7.30 pm.  Tocynnau: £8 / £6 consesiynau. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Academi ar: 029 2047 2266 / post@academi.orgDigwyddiad dwyieithog.


Gwener 10 Hydref 08
G?yl Llên y Lli: Deffro’r DychymygGwyl Llên y Lli: Deffro’r Dychymyg: Tamaid o Lên: Llyfr Glas Eurig gan Eurig Salisbury.  Mynnwch ddêt gydag Eurig.  Dewch i wrando arno yn darllen detholiad o’r gasgliad gyntaf o gerddi, Llyfr Glas Eurig (Cyhoeddiadau Barddas, 2008).  Tybed a fedr eich swyno gyda grym ei gynganeddion.  Yn Borders, Yr Ais, Caerdydd, 1.00 pm.  Mynediad am ddim.  Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Academi ar: 029 2047 2266 / post@academi.org


Gwener 10 Hydref 08
G?yl Llên y Lli: Deffro’r DychymygGwyl Llên y Lli: Deffro’r Dychymyg: Yr Injan Odli.  24 cliced, 24 tafluniad, 24 bardd.  Gosodiad unigryw gan Gymdeithas y Rhyfeddod, mudiad o artistiaid arbrofol o ardal Caernarfon, a fydd yn gofyn "beth yw dychymyg?"  Bydd cyfle i’r gynulleidfa gyfrannu i’r perfformiad amlgyfryngol hwn.  DJ a cherddoriaeth byw i ddilyn.  Yn The Wharf, Schooner Way, 7.30 pm.  Tocynnau: £6 / £4 consesiynau. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Academi ar: 029 2047 2266 / post@academi.org


Sadwrn 11 Hydref 08
G?yl Llên y Lli: Deffro’r DychymygGwyl Llên y Lli: Deffro’r Dychymyg: Sgwadiau ar Sgrîn: Y Gweithdy.  Bydd y Sgwadiau Sgwennu yn taclo’r teclynnau mewn gweithdy undydd a fydd yn cyfuno llun a llên.  Gyda Mererid Hopwood wrth y llyw, bydd y sgwad yn manteisio ar y dechnoleg ddiweddaraf i greu ffilmiau a cherddi ar y cyd.  Mewn cydweithrediad ag Addysg y Cyfryngau Cymru. Yn Ystafell Siapan, Canolfan Mileniwm Cymru, 9.00 am - 3.00 pm.  Digwyddiad caeedig.  Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Academi ar: 029 2047 2266 / post@academi.org


Sadwrn 11 Hydref 08
Gwyl Llên y Lli: Deffro’r DychymygGwyl Llên y Lli: Deffro’r Dychymyg: Gweithdy Tecslynion.  Tybed ai englynion ar ffurf neges destun yw’r llatai newydd?  Bydd Eurig Salisbury yn rhoi arweiniad i ni i’w decslynion a bydd cyfle i roi cynnig ar y mesur newydd sbon y mae wedi’i ddyfeisio.  Nifer cyfyngedig o lefydd ar gael felly cyntaf i’r felin fydd hi.  Yng Nghanolfan Glyn Jones yr Academi, 10.00 am.  Tocynnau: £4 / £3 consesiynau. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Academi ar: 029 2047 2266 / post@academi.org


Sadwrn 11 Hydref 08
Gwyl Llên y Lli: Deffro’r DychymygGwyl Llên y Lli: Deffro’r Dychymyg: Gweithdy: Blogio Dawnus.  Sut all llenorion newydd ddefnyddio blogiau fel gofod creadigol?  Bydd Yemisi Blake yn edrych ar y posibiliadau, y bobl a’r syniadau ym myd blogio.  Peidiwch â gadael i dechnoleg eich dychryn.  Bydd croeso i ddechreuwyr a’r giamstars technolegol yn eich plith.  Mae nifer gyfyngedig o lefydd ar gael felly cyntaf i’r felin fydd hi.  Mewn cydweithrediad â literaturetraining.  Yn Ystafell Seligman, Canolfan Mileniwm Cymru, 11.00 am.  Tocynnau: £4 / £3 consesiynau. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Academi ar: 029 2047 2266 / post@academi.org


Sadwrn 11 Hydref 08
Llên y Lli: Deffro’r DychymygGwyl Llên y Lli: Deffro’r Dychymyg.  Torri Cwys. Byw yn y wlad sydd wedi mynd â bryd Horatio Clare, Tom Bullough a Cynan Jones yn eu nofelau diweddaraf.  Bydd y tri yn ymuno â’r ffermwr lleol, Hugh Cory i drafod dom da, defaid a’r modd y maent wedi torri tir newydd wrth ddod â’r nofel Gymraeig yn ôl i gefn gwlad.  Yn Terra Nova, Cei’r Fôr Forwyn, 2.00 pm.  Tocynnau: £4/ £3 consesiynau. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Academi ar: 029 2047 2266 / post@academi.org


Sadwrn 11 Hydref 08
Llên y Lli: Deffro’r DychymygGŵyl Llên y Lli: Deffro’r Dychymyg. Llunyddiaeth y Lli.  Dyma gyfle i wedi y dangosiad cyntaf o waith arbrofol y  Sgwadiau Sgwennu. Bydd y carped coch wedi’i osod wrth i aelodau’r sgwadiau gyflwyno ffrwyth llafur y diwrnod.  Cyflwynir gan Mererid Hopwood.  Yn Ystafell Seligman, Canolfan Mileniwm Cymru, 3.00 pm.  Tocynnau: £3 / £2 consesiynau. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Academi ar: 029 2047 2266 / post@academi.org


Sadwrn 11 Hydref 08
Llên y Lli: Deffro’r DychymygGŵyl Llên y Lli: Deffro’r Dychymyg. Effro Eto? Beth sy’n deffro’r dychymyg mewn llenyddiaeth Gymreig yn yr unfed ganrif ar hugain?  Ymunwch â David Llywellyn a chefnogwyr eraill yr wyl wrth iddynt ystyried hyn a thrafod yr wyl hyd yma.  Yn Terra Nova, Cei’r Fôr Forwyn, 4.00 pm.  Tocynnau: £3 / £2 consesiynau. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Academi ar: 029 2047 2266 / post@academi.org


Sadwrn 11 Hydref 08
G?yl Llên y Lli: Deffro#r DychymygGŵyl Llên y Lli: Deffro’r Dychymyg.  Aisle 16.  Gall y pedwarawd prydyddol golygus hwn dorri calonau felly dewch i dorri syched yng nghwmni Chris, Joel, Ross a Luke.  Bydd y sioe arloesol, a fydd newydd ddychwelyd o Wyl Caeredin, yn dilyn hynt a helynt yr hogiau ar daith ar hyd a lled traffyrdd Prydain.  Yn The Wharf, Schooner Way, 8.00 pm. Tocynnau: £8 / £6 consesiynau. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Academi ar: 029 2047 2266 / post@academi.org Digwyddiad cyfrwng Saesneg


Sadwrn 11 Hydref 08
Llên y Lli: Deffro’r DychymygGwyl Llên y Lli: Deffro’r Dychymyg: Tamaid o Lên.  Beth am alw draw i fwynhau egwyl dros ginio yng nghwmni Fflur Dafydd? Sicrhewch eich bod ymhlith y cyntaf i fynnu eich copi o nofel Saesneg gyntaf yr awdures gydnabyddedig, Twenty Thousand Saints (Alcemi, 2008).  Yn Borders, Yr Ais, Caerdydd, 1.00 pm.  Mynediad am ddim.  Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Academi ar: 029 2047 2266 / post@academi.org


Sadwrn 1 Tachwedd 08
Canolfan Mileniwm Cymru: Diwrnod Teuluol.  Diwrnod cyfan o weithgareddau, sgyrsiau, teithiau a gweithdai i’r teulu cyfan, gan gynnwys gweithdy ysgrifennu creadigol gyda Catrin Dafydd.  Cefnogir gan Academi.  Am ragor o fanylion each i www.wmc.org.uk


Gwener 28 Tachwedd 08
Cylch Cadwgan / Tabernacl, Efail Isaf: Darlith gan Dr Richard Wyn Jones - Rhoi Cymru’n gyntaf: ’Dullian chwyldro’ neu’r llwybr seneddol. 8pm yng Nghampws Cymuned Gartholwg, Pentre’r Eglwys.  Am ragor o fanylion cysylltwch â Rowland Wynne: 029 2089 1426.  Noddwyd gan Academi (ffoniwch 029 2047 2266 am wybodaeth ar noddi digwyddiadau).


Gwener 23 Ionawr 09
Cylch Cadwgan / Cymdeithas Gymraeg Llantrisant: Gareth Miles yn sôn am Oes i Sgwennu. 8pm yng Nghampws Cymuned Gartholwg, Pentre’r Eglwys.  Am ragor o fanylion cysylltwch â Rowland Wynne: 029 2089 1426.  Noddwyd gan Academi (ffoniwch 029 2047 2266 am wybodaeth ar noddi digwyddiadau).


Sadwrn 24 Ionawr 09 - Sul 25 Ionawr 09
Yr Academi GymreigCynhadledd Gymraeg yr Academi - Goruwchnaturiol.  Yng Ngwesty a Bythynnod Gellifawr, Cwm Gwaun, Sir Benfro.  Rhagor o fanylion i ddilyn.


Mercher 20 Mai 09
Cylch Cadwgan / Merched y Wawr, Cangen y Garth: Menna Elfyn a Fflur Dafydd yn darllen eu gwaith.  8pm yn Festri Bethleham, Gwaelod y Garth.  Am ragor o fanylion cysylltwch â Rowland Wynne: 029 2089 1426.  Noddwyd gan Academi (ffoniwch 029 2047 2266 am wybodaeth ar noddi digwyddiadau).