Cyhoeddiadau Eraill yr Academi

Mae cyfres yr Academi o weithiau a gyfieithwyd o nifer o wahanol ieithoedd yn dod â’r gorau o blith llenyddiaeth y byd i ddarllenwyr yng Nghymru. 

Y Porth CyfyngY Porth Cyfyng (Gide) Elenid Jones, £0.70
Mae Alissa a Jerome yn ddwfn mewn cariad â’i gilydd, ond mae Juliette, chwaer Alissa, hefyd yn caru Jerome, ac Abel, ei ffrind yntau, yn caru Juliette.  Rhaid i rywun aberthu ei gariad – ond pwy? A phaham? A beth yw’r diweddglo annisgwyl?  Stori ramantus a gwefreiddiol gan un sy’n feistr ar grefft y nofel fer.  Cyfieithiad Elenid Jones o La Porte Etroite gan Andre Gide.



Ymwelwyd AnnisgwylYmwelwyr Annisgwyl
(Heinrich Boll) Dafydd Andrews £2.25
Ganwyd Heinrich Boll yn Cologne ym 1917.  Cafodd ddeunydd o’i stoiau a’i nofelau o’i brofiad yn y fyddin ac ar ôl 1945 daeth un un o brif awduron yr Almaen.  Enillodd y Wobr Nobel am ei waith yn 1972.  Ceir yn y gyfrol yma 15 o straeon byrion a gyfieithwyd gan Dafydd Andrews.



Y Dyn UnigY Dyn Unig (Ionesco) John Watkins, £3.25
Ganed Eugene Ionesco yn Romania ym 1912.  Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, a’i unig nofel hyd yn hyn, Le Solitaire, ym 1973.  Yn y nofel mae pethau cyffroes yn digwydd yn allanol, gan gynnwys chwyldro ac ymladd.  Ond yn fewnol y digwydd y cyffro mwyaf: y tu ôl i’r cant-a-mil o fanylion dibwys am ei ffordd feudwyaidd i fyw y mae’r adroddwr yn datgelu ei ymchwil ddiorffwys am gyfrinach ystyr bywyd.


Ar y TrothwyAr y Trothwy (Twrgenef) Dilwyn Ellis Hughes, £3.30
Ganed Ifan Sergeiefitsh Twrgenef ym 1818 yn Oriol.  Ysgrifennodd nifer o nofelau sy’n portreadu bywyd Rwsaidd y cyfnod 1830-1970.  Saif Twrgenef ysgwydd wrth ysgwyth â Dostoiefsci a Tolstoi.  Cyfrifid ef gan Henry James fel, "nofelydd y nofelwyr", a chan Joseph Conrad fel, "artist dynoliaeth heb ei ail".  Dyma gyfieithiad Dilwyn Ellis Hughes o Nacanwne.



Cath a LlygodenCath a Llygoden (Gunter Grass) Gwilym Lloyd Edwards, £6.00
Ganwyd y bardd a’r dramodydd Gunter Grass ny 1927 yn Langfuhr, un o faestrefi Danzig (bellach Gdansk.  Lleolwyd y nofel Katz und Maus yn ardal enedigol yr awdur.  Tafell hollol real o fywyf pob-dydd plant ysgol adeg Rhyfel 1939-1945 yw cynnwys y nofel, a thry’r cyfan o amgylch y cymeriad hynod a chymhleth hwnnw, Joachim Mahlke.



Plentyndod TolstoiPlentyndod (Tolstoi) Rhian Warburton, £6.00
Ganed yr Iarll Leo Nicolaiefitsh Tolstoi yn 1828 yn nhalaith i’r de o Mosco.  Bu’n ymladd yn rhyfel y Crimea ac yno ysgrifennodd Storiau Sefastopol a’i sefydlodd fel llenor; aeth ymlaen i ysgrifennu Rhyfel a Heddwch a Anna Karenin.  Bwriad gwreiddiol Tolstoi oedd creu gwaith a fyddai’n crynhoi  a dosbarthu’r profiadau arferol ym mhedwar cyfnod cynnar bywyd dyn, a thrwy hynny dod i adnabod ei hun.
 

Cerddi Osip MandelstamCerddi Osip Mandelstam Stephen Jones, £6.00
Cyfrifir Mandelstam ymhlith beirdd disgleiriaf Rwsia yn yr 20fed ganrif, ond mae eto iddo arwyddocâd lletach hefyd: un enghraifft ydoedd o’r lleiafrif llenorion a gadwodd lamo rhyddid a gwerthoedd gorau’r traddodiad dyneiddiol ynghynn yn nannedd yr erledigaeth fwyaf erchyll.

 

Dail GlaswelltDail Glaswellt
(Walt Whitman) M. Wynn Thomas, £6.00
Ystyrir Walt Whitman (1819-1892) yn brif fardd yr Unol Daleithiau, ac yn un o’r beirdd mwyaf a sgrifennai yn y Saesneg yn ystod y ganrif ddiwethaf.  Cydnabyddir mai gydai’i gyfrol gyntaf Leaves of Grass (1855) y dechreuodd y mudiad modernaidd mewn barddoniaeth, ac mai efe oedd prif arloeswr y dull penrhydd o sgrifennu.
  

Hefyd ar werth:

Detholiad WJDetholiad o Gerddi W. J. Gruffydd Bobi Jones (golyg), £6.00
Dyma’r detholiad cyflawn cyntaf o gerddi W.J. Gruffydd, gyda rhagymadrodd llawn gan Bobi Jones.  Ceir nifer o gerddi, gan gynnwys Angof, Cathl i’r Gwanwyn, Emyn i Amynedd, Gwladys Rhys, Litani, Ofn, Y Phariseaid ac Ywen Llanddeiniolen.

 

Er mwyn archebu copi o’r llyfrau hyn, danfonwch e-bost at Academi: post@academi.org