Goruwchnaturiol

24 - 25 Ionawr 2009
Gellifawr, Cwm Gwaun, Sir Benfro
Yn y tir llwyd-dywyll hwnnw rhwng anghrediniaeth ac ofn y mae’r goruwchnaturiol yn bod. Yno’n llercian y mae hen, hen ddirgelion ofnadwy ein hil. Mae yna ddrychiolaethau ac arswydau a chysgodion…
Mae’r Academi wedi trefnu cynhadledd uniaith Gymraeg yn hud a lledrith Sir Benfro. Dewch i ymuno â llenorion, academyddion, llêngarwyr a chwedleuwyr am benwythnos a fydd yn sbecian ar yr hyn sydd tu ôl i’r llenni tywyll.
Dihangwch o’r byd go iawn am ddau ddiwrnod o drafodaethau, darlithoedd, straeon a barddoniaeth mewn awyrgylch cartrefol a chyfeillgar. Bydd y sesiynau’n edrych ar rym y goruwchnaturiol yn ein llenyddiaeth, gyda chyfle i fwynhau bwyd da, cerddoriaeth a chwmnïaeth gyda’r hwyr.



