Gwasanaethau i Awduron

Ysgoloriaethau

Dyfernir ysgoloriaethau er mwyn cefnogi awduron sy’n creu gwaith newydd yn y genres canlynol: nofelau, straeon byrion, barddoniaeth, beirniadaeth lenyddol a rhyddiaith ffeithiol o werth llenyddol. Gellir ystyried gwaith nad yw’n gorwedd yn dwt yn y categorïau hyn hefyd. Nid yw dramâu yn gymwys ar gyfer y gwasanaeth hwn. Ni ddyfernir ysgoloriaethau i gefnogi gwaith ar draethawd ymchwil nac unrhyw fath arall o ymchwil academaidd ffurfiol. Gellir gwneud ceisiadau mewn mwy nag un categori.

Mae 5 math o ysgoloriaeth ar gael, mewn dau gategori:

Ysgoloriaethau Prynu Amser:

1. Ysgoloriaethau Awduron Newydd: mae’r rhain yn cael eu dyfarnu i awduron nad ydynt wedi cyhoeddi cyfrol o’u gwaith eto. Rhaid cyflwyno o leiaf 10,000 o eiriau o waith ar y gweill gyda’r cais. Os ydych wedi cyhoeddi gwaith mewn blodeugerdd neu gyfnodolyn, anfonwch samplau gyda’ch cais - un copi o bob darn.
Uchafswm y dyfarniad: £10,000

2. Ysgoloriaethau Awduron Cyhoeddedig: mae’r rhain ar gyfer awduron sydd eisoes wedi cyhoeddi cyfrol neu fwy o’u gwaith. Rhaid cyflwyno o leiaf 4,000 o eiriau NEU 8 cerdd o waith ar y gweill gyda’r cais. Anfonwch un copi o gyfrol sampl gyda’ch cais. Gallwn ddychwelyd y rhain os oes angen.
Uchafswm y dyfarniad: £10,000

3. Ysgoloriaeth Awdur Plant: Fe’i hanelir at awduron sy’n ysgrifennu ar gyfer plant a phobl ifainc yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae’r Academi yn awyddus i annog y canlynol yn enwedig:
i. Awduron yn yr iaith Saesneg sydd â chefndir Cymreig i’w gwaith
ii. Awduron sy’n ysgrifennu nofelau hirach yn yr iaith Gymraeg.
Dylai ymgeiswyr ddarparu detholiad cynrychiadol o’r gwaith sydd ar y gweill.
Uchafswm y dyfarniad: £10,000

Ysgoloriaethau Galluogi:

4. Ysgoloriaeth  i brynu cyfarpar arbenigol (ar gyfer Awduron Anabl yn unig): caiff y rhain eu dyfarnu i roi cymorth i awduron anabl. Gallant gynnwys cymorth ar gyfer y canlynol, er enghraifft:
i. i brynu cyfarpar arbenigol
ii. i helpu â chostau teithio penodol
iii. tuag at gymorth ysgrifenyddol megis gwaith golygyddol, teipio, argraffu ayb.
iv. ar gyfer cyfleoedd hyfforddi sy’n berthnasol i’ch ysgrifennu
Gall yr Academi hefyd ystyried ceisiadau am gymorth mewn materion eraill sy’n effeithio ar awduron anabl.
Uchafswm y dyfarniad: £2,000

5. Y Gronfa Amryfal: cynigir cymorth ar raddfa fechan mewn materion sy’n berthnasol i brosiectau ysgrifennu penodol. Er enghraifft, gall gynnwys costau teithio, gwaith ymchwil, gwaith mewn ieithoedd eraill, gofal plant, rhentu man tawel i ysgrifennu ac eitemau eraill. Nid oes grantiau cyfalaf (megis prynu cyfrifiaduron) ar gael dan amodau’r ysgoloriaeth hon.
Uchafswm y dyfarniad: £2,000

Cymhwyster

Nid yw dramâu yn gymwys ar gyfer y gwasanaeth hwn.

Ni ddyfernir ysgoloriaethau i gefnogi gwaith ar draethawd ymchwil nac unrhyw fath arall o ymchwil academaidd ffurfiol.

Os ydych wedi derbyn Ysgoloriaeth i Awduron yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf (2007 neu 2008), ni chaniateir i chi ymgeisio eleni.

Os ydych wedi derbyn grant gomisiwn gan Gyngor Llyfrau Cymru nid ydych yn gymwys i gael eich hariannu dan gynllun Ysgoloriaeth i Awduron yr Academi.

Nid oes grantiau cyfalaf ar gael dan y cynllun hwn, ac eithrio ar gyfer awduron anabl.

Gwybodaeth ychwanegol

Derbynnir ceisiadau gan awduron sy’n gweithio mewn unrhyw iaith, sy’n preswylio yng Nghymru tra’n gwneud eu cais ac a fydd yn parhau i fyw yng Nghymru drwy gydol cyfnod yr Ysgoloriaeth [ni fydd cyfnodau i ffwrdd yn ystod ysgoloriaeth deithio yn effeithio ar hyn].

Ar gyfer ysgoloriaethau a anelir at brynu amser, rhaid i ymgeiswyr sicrhau y gallant gymryd yr amser hwnnw os byddant yn llwyddiannus. Er enghraifft, efallai y bydd angen i chi wirio’r sefyllfa gyda’ch cyflogwr cyn gwneud cais.

Y dyddiad cynharaf y gall ysgoloriaethau 2009 gychwyn yw 1 Mawrth 2009.  Rhaid cwblhau’r ysgoloriaethau erbyn 31 Mawrth 2010. Bydd cyfnodau ysgoloriaethau yn cychwyn ar ddiwrnod cyntaf y mis.

Yn achos ysgoloriaethau a anelir at brynu amser, mae’r swm a ddyfernir yn rhannol gysylltiedig â cholled incwm yn ystod cyfnod yr ysgoloriaeth, pa un a yw’r ymgeisydd yn gyflogedig ai peidio. Mae’r cais yn gofyn i chi roi amcangyfrif o’r swm hwn. Bydd angen datganiad incwm wedi ei gadarnhau arnom os bydd eich cais yn llwyddiannus. Cyfnod arferol ysgoloriaeth yw rhwng 1 a 6 mis.

Bydd angen i chi gadarnhau â Chyllid y Wlad yn unrhyw oblygiadau treth personol yn sgil derbyn ysgoloriaeth. Dylai ymgeiswyr ofyn am gyngor proffesiynol ar y mater hwn.

Ar gyfer ysgoloriaethau a anelir at bryniannau cyfalaf (ar gyfer awduron anabl), ymchwil, teithio, ayb, mae Cyllid y Wlad yn debygol o gyfrifo atebolrwydd treth.  Eto, dylai ymgeiswyr ofyn am gyngor proffesiynol ar y mater hwn.

Rhaid i unrhyw waith a ddechreuir, a ddatblygir neu a gwblheir dan delerau’r dyfarniad ysgoloriaeth gydnabod yr Academi. Rhaid trafod yr union eiriau â’r Academi cyn cyhoeddi. Nid yw’r Academi yn gyfrifol am grantiau cyhoeddi. Dylid cyfeirio ymholiadau yn y maes hwn at Gyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, Aberystwyth, SY23 2JB (01970 624151 www.wbc.org.uk neu e-bostiwch nhw ar cllc.grantiau@cllc.org.uk). Mae’r Academi yn cadw rhestr o gyhoeddwyr (cliciwch yma) ac efallai byddwch am groesgyfeirio at Gynllun Mentora  Awduron yr Academi, y mae canllawiau annibynnol ar ei gyfer.

Bydd gofyn i dderbynwyr ysgoloriaethau anfon adroddiad byr yng nghanol y cyfnod at yr Academi, yn ogystal â sampl o’r gwaith sydd ar y gweill. Mae’r Academi yn deall y gall cynnydd fod yn araf. Fodd bynnag, mae angen i ni weld enghreifftiau o’r hyn y mae’r ysgoloriaeth yn ei brynu. Gwneir y taliad olaf ar ôl derbyn adroddiad ar ddiwedd y cyfnod. Ar y cam hwn byddwn yn gofyn am weld tystiolaeth o’r gwaith a gyflawnwyd, pa un a yw’n llwyddiannus ai peidio. Bydd yr Academi yn gofyn am gopïau cyfarch o unrhyw waith a gyhoeddir o ganlyniad i’r ysgoloriaeth.

Hoffai’r Academi groesawu’r pob derbynnydd ysgoloriaeth i fod yn Aelod Cefnogol. Os nad yw eisoes yn aelod, bydd yr Academi yn cofrestru’r derbynnydd ac yn tynnu’r tâl tanysgrifiad blynyddol o £15 o gyfanswm yr ysgoloriaeth. Mae manteision aelodaeth yn cynnwys amrywiaeth o ostyngiadau ar ddigwyddiadau a gwasanaethau yn ogystal â’r modd i gadw mewn cysylltiad â’r byd llenyddol yng Nghymru.

Mae’r Academi yn croesawu ymholiadau ynglŷn ag unnrhyw fater sy’n ymwneud â’ch cais.

Os ydych yn cael trafferthion penodol wrth wneud cais, rhowch wybod i ni a gallwn drefnu ffordd arall ichi wneud cais am ysgoloriaeth.


 CYHOEDDWYD ENILLWYR YSGOLORIAETHAU 2008 FIS MAWRTH 2008.
Cliciwch yma i weld pa awduron fu’n llwyddiannus yn 2008.

 Mae’r dyddiad cau ar gyfer Ysgoloriaethau 2009 wedi mynd heibio, sef 1 Tachwedd 2008.

Mae’r amserlen ddyfarnu fel a ganlyn:
Bydd y Panel Ysgoloriaethau’n asesu’r ceisiadau yn y cyfnod Tachwedd 2008 - Ionawr 2009. Bydd y Panel Ysgoloriaethau’n cwrdd fis Chwefror 2009. Caiff pob ymgeisydd ei hysbysu’n uniongyrchol tryw lythyr. Tybir y cyhoeddir enwau’r awduron fydd yn derbyn Ysgoloriaethau i Awduron 2009 ar wefan yr Academi ddechrau Mawrth 2009.

Ceir dyddiad cau blynyddol ar gyfer Ysgoloriaethau i Awduron. Tybir bydd y dyddiad cau nesaf yn ystod hydref 2009, ar gyfer Ysgoloriaethau 2010.

Cliciwch ar y ddolen yn y blwch isod ar waelod y dudalen er mwyn dadlwytho ffurflen gais 2009 - er gwybodaeth yn unig. Ni ddylid defnyddio’r ffurflen hon ar gyfer ceisiadau 2010. Tybir bydd ffurflenni cais ar gyfer Ysgoloriaethau 2010 ar gael yng Ngorffennaf 2009.

Ysgoloriaethau Awduron yr Academi
Yr Academi
Prif Weithredwr Peter Finch
Tŷ Mount Stuart
Sgwâr Mount Stuart
Caerdydd CF10 5FQ
ffôn: 029 2047 2266
ffacs: 029 2049 2930
post@academi.org

Yr Academi yw’r Asiantaeth Genedlaethol er Hyrwyddo Llenyddiaeth  a Chymdeithas Llenorion Cymru. Rhif Elusen Gofrestredig 506402. Mae’r Academi yn gweithio gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru.

DOC (Microsoft Word Document) File YsgCym09 17 KB