Gwasanaethau i Awduron

Mentora

Y Gwasanaeth

Mae Gwasanaeth Mentora  Awduron yr Academi yn cynnig cymorth a chyngor ymarferol i awduron sy’n dangos addewid eithriadol - y rhai hynny y mae cyhoeddwyr eisoes wedi dangos diddordeb mawr yn eu gwaith. Mae’r Gwasanaeth wedi ei gynllunio i ddatblygu’r gwaith hwnnw i safon cyhoeddi.

Sut gall y Gwasanaeth helpu?

Gall awduron ofyn am gymorth i ddatblygu darn o waith penodol sydd ar y gweill. Rhoddir cymorth ar ffurf nifer o sesiynau ag awdur sefydledig yn yr un genre a fydd yn gallu cynnig awgrymiadau a beirniadaeth adeiladol er mwyn helpu i wella’r gwaith. Dewisir y tiwtor hwn, gan ymgynghori â’r ymgeisydd a’r cyhoeddwr, o banel o awduron profiadol a ffurfiwyd at y diben hwn. Disgwylir i awduron a fydd yn defnyddio’r Gwasanaeth hwn roi amser rhwng sesiynau tiwtora er mwyn datblygu’r gwaith.

Cymhwyster

Mae ceisiadau yn agored i awduron sy’n preswylio yng Nghymru adeg gwneud y cais ac a fydd yn parhau i fyw yng Nghymru drwy gydol y cyfnod mentora. Mae awduron sy’n ysgrifennu yn y Gymraeg ac yn byw y tu allan i Gymru hefyd yn gymwys i wneud cais. Dylid cyfeirio cwestiynau ynghylch cymhwyster at yr Academi cyn gwneud cais ffurfiol.

Ni chaiff awduron ddefnyddio’r Gwasanaeth fwy nag unwaith mewn unrhyw gyfnod tair blynedd.

Mae’r Gwasanaeth hwn yn agored i awduron sydd wedi cyhoeddi gwaith eisoes, a rhai na chyhoeddodd waith eto, ond ni all y cyfnod gydredeg ag unrhyw ddyfarniad Gwasanaethau Awduron arall gan yr Academi, er enghraifft ysgoloriaeth.

Faint o gyllid sydd ar gael?

Gall Gwasanaeth Mentora Awduron yr Academi dalu am gostau amser y tiwtor ynghyd â chostau teithio yr ymgeisydd a’r tiwtor. Yn ôl y patrwm arferol, trefnir hyd at bum sesiwn hanner diwrnod ar dros gyfnod penodedig. Gall y gronfa gynnal tua saith o awduron bob blwyddyn.

Sut i wneud cais

Dylid gwneud ceisiadau ar ffurflen sydd ar gael gan yr Academi. Gofynnir i ymgeiswyr gyflwyno sampl o’r gwaith dan sylw ynghyd â llythyr geirda gan gyhoeddwr dilys. Ni fydd y cais yn gyflawn nac yn gymwys heb lythyr geirda gan gyhoeddwr dilys.

Byddwn yn cydnabod derbyn eich cais yn syth. Ni all yr Academi fod yn gyfrifol am unrhyw ddogfennau gwreiddiol a gollir.

Y broses benderfynu

O Hydref 2007 ymlaen, ceir un  ddyddiad cau bob blwyddyn, sef yr un dyddiad a’r dyddiad cau ar gyfer Ysgoloriaethau i Awduron. Caiff ceisiadau eu hasesu gan y Panel Ysgoloriaethau, yr un pryd a’r ceisiadau ar gyfer ysgoloriaethau. Mae’r Panel Ysgoloriaethau fel arfer yn cwrdd ym mis Chwefror. Tybiwn y cyhoeddir y penderfyniadau ym mis Mawrth. Os mynnir, rhoddir rhesymau dros wrthod i ymgeiswyr aflwyddiannus.

Yn ôl pa feini prawf y caiff ymgeiswyr eu beirniadu?

Seilir penderfyniadau’r Panel ar y ffactorau isod:

  • ansawdd llenyddol y gwaith a gyflwynir
  • y tebygolrwydd y caiff ei gyhoeddi gan gyhoeddwr dilys
  • yr angen i hyrwyddo ystod ac amrywiaeth o ysgrifennu newydd yng Nghymru
  • gwerth yr argymhelliad gan gyhoeddwr cydnabyddedig.Ni ellir derbyn ceisiadau gan hunan-gyhoeddwyr posibl

Rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr a gefnogir gan gyhoeddwyr a leolir yng Nghymru.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau Mentora 2009:
Dydd Sadwrn 1 Tachwedd 2008.  

Gwasanaeth Mentora’r Academi
Prif Weithredwr Peter Finch
Tŷ Mount Stuart
Sgwâr Mount Stuart
Caerdydd CF10 5FQ
ffôn: 029 2047 2266
ffacs: 029 2049 2930

I dderbyn ffurflen gais e-bostiwch ni ar post@academi.org gan nodi eich cyfeiriad post.

Yr Academi yw Asiantaeth Genedlaethol er Hyrwyddo Llenyddiaeth  a Chymdeithas Llenorion Cymru. Rhif Elusen Gofrestredig 506402. Cefnogir yr Academi gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru