Gwasanaethau i Awduron
DATGANIAD I’R WASG 2006
Ysgoloriaethau’r Academi ar gyfer Awduron 2006
Geiriau ar hyd Llwybrau Llên
Bydd 23 o awduron, chwech ohonynt yn awduron newydd, oll yn derbyn cyfran o £87,000 o bunnoedd gan yr Academi i’w hysgogi i ysgrifennu. Yn ogystal â llenorion cyhoeddedig Cymru, bydd rhai awduron newydd ymhlith y rhai sy’n derbyn ysgoloriaeth i brynu amser o’u dyletswyddau bob dydd.
Bydd y Prifardd Iwan Llwyd yn archwilio hanes a chyfoeth arfordir Cymru drwy gyfrwng cerddi a rhyddiaith gwreiddiol. Bydd yn cydweithio gyda’r ffotograffydd Aled Rhys Hughes i greu darlun newydd cyfoes a fydd yn dathlu hanes a harddwch arfodir Cymru. Bydd yn crwydro o ben pellaf ynys Môn i aber yr afon Hafren gan ddilyn llanw a thrai. Bydd Hefin Wyn yn gadael sain be bop a lula’r delyn aur adref ac yn crwydro 180 o filltiroedd pentigily ar hyd Llwybr Arfordir Sir Benfro er mwyn ymchwilio’i deithlyfr nesaf. Mannau o Bererindod yng Nghymru a thu hwnt, a’u cysylltiadau llenyddol fydd yn mynd â bryd Aled Lewis Evans.
Bydd ysgoloriaethau 2006 yn esgor ar sawl nofel newydd. Bydd yr awdur toreithiog Eigra Lewis Roberts yn gweithio ar ddilyniant i’w nofel Rhannu’r Tŷ. Enillodd Angharad Price y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2002 am ei nofel O! Tyn y Gorchudd. Mae’n bwriadu ysgrifennu nofel Cymuned, a fydd yn holi beth yw gwerth a phris cymuned. Bydd B S Reeves, a enillodd gystadleuaeth stori fer BBC Cymru yn addasu ei stori fer Tair i fod yn nofelig. Yn hytrach na threfnu cyrsiau a hybu ysgrifennu creadigol yn Nhŷ Newydd, bydd ysgoloriaeth Sian Northey yn caniatáu i hithau ymroi i ysgrifennu am gyfnod.
Ymhlith yr awduron sydd yn derbyn ysgoloriaeth i ysgrifennu’n Saesneg mae James Hawes, Mike Jenkins, Roger Granelli, Richard Collins, Cat Weatherill, Tristan Hughes.
Dywedodd Peter Finch, Prif Weithredwr yr Academi: “Mae hwn yn gam pendant tuag at broffesiynoli’r swydd o lenydda yng Nghymru.” Dywedodd Simon Mundy, Cadeirydd y Panel: “Dengys yr ysgoloriaethau hyn nad oes prinder dawn ysgrifennu yng Nghymru. Byddai wedi bod yn bosib i ni wobrwyo 20 o awduron eraill a oedd â cheisiadau haeddiannol.”
Panel Ysgoloriaethau’r Academi 2005-06:
Simon Mundy (Cadeirydd), Gwen Davies, Catherine Fisher, Amanda Hopkinson ac Idris Reynolds.
Ysgoloriaethau’r Academi ar gyfer Awduron 2006
Mike Jenkins (Merthyr Tudful)
Rachel Trezise (Rhondda Cynon Taf)
Hefin Wyn (Sir Benfro)
Chris Keil (Sir Gaerfyrddin)
Eigra Lewis Roberts (Conwy)
Lorna Lloyd (Torfaen)
Roger Granelli (Rhondda Cynon Taf)
Helena Attlee (Powys)
Richard Collins (Powys)
B S Reeves (Powys)
Graham Hartill (Powys)
Matthew R Jarvis (Ceredigion)
Cat Weatherill (Powys)
Iwan Llwyd (Gwynedd)
Beth Ditson (Fflint)
James Hawes (Caerdydd)
Sarah Jackman (Abertawe)
Aled Lewis Evans (Wrecsam)
Tristan Hughes (Ynys Môn )
Angharad Price (Caerdydd)
Michelle A Oliver (Caerdydd)
Sue Morgan (Caerdydd)
Sian Northey (Gwynedd)



