Gwasanaethau i Awduron

Datganiad i’r Wasg
12 Ebrill 2007

Ysgoloriaethau’r Academi ar gyfer Awduron 2007
Geiriau ar hyd Llwybrau Llên

Tri Prifardd, un Prif Lenor, darlithwyr, beirdd, a nofelwyr - Bydd 23 o awduron yn derbyn cyfran o £100,000 o bunnoedd gan yr Academi i’w hysgogi i ysgrifennu. Yn ogystal â llenorion cyhoeddedig Cymru, bydd saith o awduron newydd ymhlith y rhai sy’n derbyn ysgoloriaeth i brynu amser o’u dyletswyddau bob dydd.

O Sycharth i Sempringham
Mannau o Bererindod yng Nghymru a thu hwnt, a’u cysylltiadau llenyddol fydd yn mynd â bryd y Prifardd T James Jones. Derbyniodd ysgoloriaeth deithio a fydd yn caniatáu iddo ymweld â mannau o bwys hanesyddol, naill ai’n grefyddol neu’n wleidyddol. Ei fwriad yw cwblhau cyfrol o gerddi newydd.

O’r Goron i Gwlwm Canrifoedd
Bydd Christine James, Bardd y Goron Eisteddfod Eryri 2005, yn cymryd seibiant o ddarlithio er mwyn canolbwyntio ar orffen ysgrifennu casgliad o gerddi. Bydd y gyfrol yn cynnwys dilyniant newydd o gerddi, a phob un wedi’i bachu mewn adeilad neu wrthrych yng nghasgliad yr Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan.

Wedi ugain mlynedd o weithio fel athro, bydd y Prifardd Tudur Dylan Jones cael egwyl o’r ystafell ddosbarth er mwyn cael cyfle i ganolbwyntio ar ysgrifennu cerddi newydd. Bu’n ystyried ers tipyn sut mae’r un symbyliad yn gallu esgor ar fwy nag un myfyrdod. Bwriada gyhoeddi cyfrol o gerddi ochr-yn-ochr, cerddi newydd a fydd yn ymateb i’r un symbyliad ddwy waith.

Bydd yr awdur toreithiog Angharad Tomos yn ysgrifennu nofel newydd wedi ei gosod yn nhridegau a phedwardegau’r ganrif ddiwethaf.  Bydd y nofel yn portreadu dirywiad meddwl gwraig sy’n dioddef o salwch nerfau.

Derbyniodd y storïwr proffesiynol Michael Harvey ysgoloriaeth deithio a fydd yn ei alluogi i deithio i Frasil i ymchwilio i chwedlau’r wlad ar lafar ac yn ysgrifenedig. Bwriada ysgrifennu cyfrol o straeon i blant.

Ymhlith yr awduron newydd dyfarfnwyd ysgoloriaeth i Sian Melangell Dafydd weithio ar ei nofel gyntaf yn Saesneg.

Bydd ysgoloriaethau 2007 yn esgor ar sawl nofel a sawl cyfrol newydd o farddoniaeth. Ymhlith yr awduron sy’n derbyn ysgoloriaethau i ysgrifennu’n Saesneg mae Tessa Hadley, Patrick Corcoran, Cynan Jones, Sheenagh Pugh a Mike Parker.

Dywedodd Peter Finch, Prif Weithredwr yr Academi: “Mae hwn yn gam pendant tuag at broffesiynoli’r swydd o lenydda yng Nghymru.”  Dywedodd Gwen Davies, Cadeirydd y Panel:“Mae cydbwysedd eleni rhwng estyn cymorth i awduron cyhoeddedig sydd wedi ennill eu plwyf ac yn ceisio jyglo’u hymrwymiadau, a rhoi hwb i hyder a phroffil awduron newydd. Mae’r ddau beth yn rhan o swyddogaethau pwysig yr Ysgoloriaethau ar gyfer Awduron.”

 

Nodiadau ar gyfer golygyddion:


Yr Academi
• Yr Academi yw’r Asiantaeth Genedlaethol er Hyrwyddo Llenyddiaeth a Chymdeithas Llenorion Cymru. Sefydlwyd yr Academi Gymreig ym 1959 yn sgil trafodaethau rhwng Bobi Jones a Waldo Williams.
•  Ym 1998 ymgymerodd y gymdeithas â maes llafur helaethach o lawer pan enillodd gytundeb Cyngor Celfyddydau Cymru i ddarparu Asiantaeth Lenyddiaeth Genedlaethol. 
• Mae’r Academi yn gweithio mewn partneriaeth â Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn Llanystumdwy. Cefnogir yr Academi gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
• Mae’r Academi’n gyfrifol am drefnu gwobr Llyfr y Flwyddyn, digwyddiadau llenyddol (Maes C, cynadleddau, ciniawau, teithiau barddol, darlithoedd), ysgoloriaethau awduron, Sgwadiau Sgwennu’r Ifainc, cynlluniau nawdd amrywiol
• Mae’r Academi wedi ymuno â’r Urdd, Opera Cenedlaethol Cymru a sefydliadau eraill fel un o breswylwyr Canolfan Mileniwm Cymru.

Ysgoloriaethau:
Dyfernir Ysgoloriaethau ar gyfer Awduron yn flynyddol gan yr Academi. Ceir manylion llawn ar ein gwefan www.academi.org.

Atodir rhestr o’r holl ymgeiswyr llwyddiannus.

Panel Ysgoloriaethau’r Academi 2006-07:
Gwen Davies (Cadeirydd), Catherine Fisher, Kathryn Gray, Amanda Hopkinson ac Idris Reynolds.

 

Ymgeiswyr llwyddiannus 2007:

Grahame Davies  
Belinda Bauer   
Mark Jenkins   
Romyanna K Thomas  
Ivy Alvarez   
Sheenagh Pugh  
Kate O’Reilly   
T James Jones   
Mike Parker   
Cynan Jones  
Alexandra Claire  
Matthew Francis  
Tom Anderson  
Francesca Rhydderch  
Tim Casson  
Patrick Corcoran  
Tessa Hadley   
Angharad Tomos  
Tudur Dylan Jones  
Sian Melangell Dafydd 
Michael Harvey  
Rhys Hughes    

 


Academi
Prif Weithredwr: Peter Finch
Tŷ Mount Stuart, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd CF10 5FQ
ffôn: 029 2047 2266  ffacs: 029 2049 2930
www.academi.org    post@academi.org

Cefnogir yr Academi gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’r Academi’n gweithio mewn partneriaeth â Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd.
Rhif elusen gofrestredig: 506402