Gwybodaeth Corfforaethol
Cyfansoddiad yr Academi
Elusen gofrestredig yw’r Academi ac fe’i sefydlwyd i hyrwyddo llenyddiaeth yng Nghymru. Mae ganddi ryw 500 o Aelodau Llawn mewn dwy adran (Cymraeg a Saesneg) a nifer uwch o lawer o Gefnogwyr. Trwy wahoddiad y ceir Aelodaeth Lawn, ond gellir gwneud cais i ddod yn Gefnogwr.
Mae gan yr Academi Brif Weithredwr, saith o staff amser–llawn a nifer o staff rhan-amser.
Fe’i llywodraethir gan Fwrdd Rheoli; daw aelodau’r Bwrdd o blith aelodaeth yr Academi ei hun, cyrff sydd mewn partneriaeth â hi, awdurdodau lleol, cymdeithasau i awduron y mae eu gwaith yn berthnasol i amcanion yr Academi, y cyfryngau a byd masnach. Bydd aelodau o’r Bwrdd yn gwasanaethu am dair blynedd ac etholir neu cadarnheir yr aelodau gan gyfarfod cyffredinol blynyddol y Gymdeithas. Mae gan y Bwrdd gyd-gadeiryddion.
Yn ogystal â’r Bwrdd Rheoli, mae gan yr Academi Bwyllgor Aelodau a ffurfiwyd yn unswydd i ofalu am faterion sy’n ymwneud â’r aelodau. Mae gan y Pwyllgor hwn ddwy adran (un yr un ar gyfer y ddwy iaith), ac etholir hwn hefyd gan gyfarfod cyffredinol blynyddol y Gymdeithas. Mae’r Pwyllgor Aelodau yn cysylltu ac yn cyd-drafod â’r Bwrdd trwy’r cyd-gadeiryddion. Noddir yr Academi o ffynonellau cyhoeddus (Cyngor Celfyddydau Cymru a’r awdurdodau lleol yn bennaf, ynghyd â nifer o ymddiriedolaethau), gan danysgrifiadau’r aelodau ac i raddau llai gan ein gweithgareddau masnachol a llenyddol.



