Gwybodaeth Corfforaethol

Anerchiad y Cyd-Gadeirydd Harri Pritchard Jones i CCB yr Academi 2008


Blwyddyn arall lwyddiannus yn hanes yr Academi, a hynny er gwaethaf twf lawer fwy yn y gweithgarwch nag yn yr adnoddau dynol a materol. Mae rhywun yn synhwyro fod llenyddiaeth ein gwlad yn y ddwy iaith yn cael lle mwy amlwg yn ein bywyd cyhoeddus y dyddiau hyn, a’r ddwy garfan lenyddol mewn priodas ddedwydd gyda’i gilydd.
 
Rydyn ni wedi llwyr gyfiawnhau cynnal y ddwy swyddfa yng Nghaerdydd, yn ogystal â’n presenoldeb ar draws y wlad, ac yr ydym yn raddol estyn ein rhwydwaith o drefnyddion a threfniadau drwy Gymru benbaladr yn ogystal.
 
Yn ystod y flwyddyn fe gyhoeddwyd y gyfrol hardd, wych a gwerthfawr dros ben, Y Gwyddoniadur, sy’n ffrwyth llafur cariad cymaint o’r staff a gweithgarwch diwyd, dyfal a dysgedig y tîm golygyddol. Gyda’r Geiriadur, mae hyn yn gyfraniad aruthrol i’n llenyddiaeth, a diolch yn fawr iawn i bob un a fu ynghylch y gwaith.
 
A daeth newyddion gwych am arian sylweddol i hybu ein gweithgarwch yn y carchardai. Mae dirfawr angen cynnig gweithgareddau creadigol i garcharorion.
 
Ochr arall i weithgarwch yr Academi yw hybu awduron, ac mae angen cynyddu’r arian a dderbynnir ganddyn nhw am eu gwaith. Dim ond felly y gellir magu nifer dda o ysgrifenwyr proffesiynol. Ond, er mwyn hynny, rhaid wrth fwy o gyllid, ac fe wnawn ni’n gorau i berswadio’r Gweinidog newydd, sydd yn ?r llengar iawn, fod rhaid wrth ragor o arian i gynnal a datblygu gweithgareddau hollbwysig llenydda. Mae gwaith o’r fath yn allweddol i fwydo enaid y genedl.
 
Ymlaen mae Canan!

Harri Pritchard Jones