Gwybodaeth i Awduron
Blodeugerddi Rhanbarthol
Peidiwch byth â thalu am gael cyhoeddi eich gwaith. Ond beth os gofynnir ichi dalu am gopi o’r cylchgrawn neu’r flodeugerdd y mae eich gwaith yn ymddangos ynddo neu ynddi? A ddylech chi wneud hynny? Beth yw’r manteision? Pa le sydd i’r math yma o gyhoeddi yng nghanol y byd cyhoeddi mawr?
Yn gyfochrog ag uchelfannau llenyddol llawer iawn o’r byd barddoniaeth (Saesneg) ceir ymerodraethau sydd i raddau helaeth yn anhysbys i ffurfwyr chwaeth ac sy’n cael eu hanwybyddu gan y rhan fwyaf o’r beirniaid. Mae’r fwyaf o’r rhain, Forward Press, gwasg Ian a Tracy Walton yn Peterborough, bellach â throsiant o dros ddwy filiwn o bunnoedd y flwyddyn, bron 5500 o deitlau mewn print, ac mae’n honni ei bod yn gyfrifol am y gyfran uchaf o’r holl farddoniaeth newydd a gyhoeddir yn y Deyrnas Unedig. Roedd y ddau wedi diflasu ar ’ugain mlynedd o fethu mwynhau barddoniaeth’ oherwydd ei bod yn ddieithriad yn dywyll, ac erbyn hyn maent wedi symud o’r gegin gefn i swyddfeydd tri llawr sy’n gwasanaethu 750,000 o brydyddion Prydain. ’Mae cyfran fawr o’r miloedd o lythyrau a gawn yn dweud bod barddoniaeth i lawer o bobl yn rhy gymhleth ac anodd ei deall’ meddai un o’u taflenni. Am dros ddegawd er pan ffurfiwyd Forward Press aethant ati’n frwd i hyrwyddo ’barddoniaeth ddarllenadwy, ddiffuant y gall pawb uniaethu â hi’. Er eu bod wedi cyhoeddi gwaith pobl fel Carol Ann Duffy, Simon Armitage a Gavin Ewart, nid yr uchelfannau o anghenraid yw eu tiriogaeth. Mae’r busnes yn cyhoeddi dan nifer o wasgnodau gan gynnwys Poetry Now, Anchor Books, Young Writers a Triumph House, ac mae’n derbyn miloedd o gyfraniadau y flwyddyn. Caiff beirdd eu denu at ei gilydd trwy gopi golygyddol mewn papurau rhanbarthol. Daw’r cyfranwyr i mewn yn eu cannoedd. ’Mae’n reit debyg i ddrama amatur,’ meddai Ian, ’mae lle i unrhyw un.’
Llwyddodd Forward oherwydd ei bod mor hawdd mynd atynt. Bydd y Waltoniaid a’u tîm o olygyddion ifainc yn cynnwys cynifer â chant a thrigain o gerddi ym mhob blodeugerdd. Ni chodir tâl am eu cynnwys. Mae’n well ganddynt gerddi â llai na deg llinell ar hugain. Cedwir y costau’n isel trwy ddefnyddio offer argraffu mewnol – gwasg ddigidol Ryobi - a rhwymiadau buddiol. I weld eich gwaith mewn print, a dyma holl raison d’etre ysgrifennu i’r rhan fwyaf o gyfranwyr, yna rhaid ichi brynu copi. I lawer o feirdd, dyma fydd eu hymddangosiad cyntaf mewn llyfr, a byddant yn prynu mwy nag un copi. Nid y porthi balchder traddodiadol sydd wrth wraidd y drefn. Nid oes neb yn cael ei bluo mewn gwirionedd ac nid yw’r cyhoeddwyr yn gwneud elw afresymol chwaith. Fesul tudalen, nid yw eu cyhoeddiadau fawr drutach na rhai Cape neu Faber ac maent yn rhatach na chynnyrch rhai gweisg bychain. Mae’r dosbarthiad, er hynny, yn anwastad - nid bod llawer o lyfrau Forward yn cyrraedd silffoedd ein cadwyni cenedlaethol, er i rai ymdrechion gael eu gwneud. Fel yn achos llawer o’r gweisg bychain, anogir pobl sydd â diddordeb i brynu’n uniongyrchol. Mae pob un o’r beirdd y cyhoeddir eu gwaith yn cystadlu am ddim am Wobr 100 Bardd Gorau’r Flwyddyn. Mae’r wobr yn gyfran o £10,000, a’r wobr gyntaf yn £3000. Honna beirniaid Forward fod ansawdd yn cael ei aberthu ar allor niferoedd: llacio’r meini prawf ar gyfer cynnwys cerddi, eu gwasgu i mewn, gwerthu rhagor o gopïau. Heb os, mae gwir gamp lenyddol ymddangos yn un o lyfrau Forward yn amheus. Rhaid dweud ar y llaw arall mai hwn fydd y dechrau y bydd ei fawr angen ar rai awduron (ystyrier Angela Macnab a Sally Spedding); i eraill, fodd bynnag, hwn fydd yr unig lwyddiant a gânt fyth.
Yn ogystal â’u casgliadau ysgolion a rhanbarthol, mae Forward yn rhedeg tri chylchgrawn, Poetry Now, Scribbler! a Wordsmith (i awduron ifainc), gwasanaeth argraffu a dylunio i hunan-gyhoeddwyr, New Fiction, gwasgnod i awduron storïau byrion, a Spotlight - cyd-fenter gyhoeddi sy’n rhoi llwyfan i ddwsin o feirdd ifainc ar y tro. Mae eu gwasgnod Writers’ Bookshop yn cyhoeddi cyfres dra buddiol o gyfeirlyfrau, gan gynnwys arweinlyfrau pwnc a genre, cyfeiriaduron a llawlyfrau. Mae Forward yn cynnig ffordd o fyw i feirdd. Os yw A Treasured Moment, Perception of Life, Inspire to Rhyme, In High Spirits, Message from Within a From a Distance yn apelio atoch chi, anfonwch am becyn gwybodaeth y gr?p (Remus House, Peterborough, PE2 9JX), ffoniwch nhw ar 01733 898105, ffacsiwch nhw ar 01733 313524, ewch i’w gwefan, http://www.forwardpress.co.uk/, neu e-bostiwch eich cais (inbox@forwardpress.co.uk). Fydd dim cyfnewid amheus ar gyfeiriadau cyfleus yma, ond ar y llaw arall, prin fydd y cewri llenyddol hefyd.
Mae llwyddiant Forward i gipio calonnau a meddyliau y rhan fwyaf o feirdd hamdden y Deyrnas Unedig wedi ysgogi cryn nifer o ddarpar ymerodraethau i gystadlu yn eu herbyn. Ceir toreth o flodeugerddi rhanbarthol, casgliadau Goreuon Prydain, llyfrau o farddoniaeth Lloegr, yr Alban, Iwerddon a Chymru. Denir cyfraniadau trwy hysbysebu ar waliau llyfrgelloedd, mewn papurau rhad lleol, ar radio lleol a thrwy bostio uniongyrchol. Mae’r mentrau hyn yn amrywio o’r sgleiniog i nifer o ymdrechion tila, a byrhoedlog gobeithio, yn tarddu o’r tu allan i’r dinasoedd. Nid yw’r cyfranwyr yn cael eu pluo mewn gwirionedd a derbynnir eu gwaith pa un a ydynt yn prynu ai peidio. Ond er mwyn gweld eich gwaith rhaid ichi brynu a gall y llyfrau gostio dros ddeg punt ar hugain. Peidiwch â chyflwyno’n ddall: ymchwiliwch yn gyntaf i’w rhestr gyhoeddiadau. Dyna fyddai Faber yn ei fynnu gennych. Mae’r rheol yn berthnasol i’r byd barddoniaeth i gyd.
Ymddangosodd rhan o’r eitem hon yn gynharach yng nghyfraniad Peter Finch i gyhoeddiad blynyddol Macmillan, The Writer’s Handbook, golygydd Barry Turner. Mae’r Llawlyfr hwn yn hanfodol i bob llenor sydd o ddifrif. Archebwch eich copi yma.



