Gwybodaeth i Awduron

A oes angen Asiant Llenyddol arnaf?

Os ydych yn fardd, yn awdur darnau achlysurol ar gyfer cylchgronau neu’n hanesydd lleol, mae’n debyg nad oes. Mewn awduron sy’n gwneud arian y mae diddordeb asiantau. Anaml y bydd bardd yn gwneud arian. Ond os ydych yn nofelydd newydd (neu hyd yn oed yn nofelydd ag ychydig o filltiroedd ar y cloc), neu’n awdur llyfr beirniadol neu waith ffeithiol arall, neu’n gofiannydd, yna gallai asiant agor drysau na fyddech byth yn gallu eu hagor ar eich pen eich hun.

Mae asiantau llenyddol yn eistedd rhwng yr awdur a’r cyhoeddwr. Y nhw sy’n trafod yr ochr fusnes i lenydda, yn trafod cytundebau, ac yn trin hawlfreintiau. Eu prif honiad, wrth gwrs, yw y gallant gael hyd i gyhoeddwr ichi yn y lle cyntaf. Os yw eich gwaith yn waith a fydd yn gwerthu (ac os nad yw, maen nhw’n si?r o ddweud wrthych), yna bydd asiant yn cael hyd i gartref priodol iddo. Llundain yw canolfan bron pob asiant, yn agos i galon busnes cyhoeddi Saesneg y Deyrnas Unedig. Maen nhw’n nabod y farchnad, yn gwybod lle mae’r bylchau, yn gwybod pwy sy’n gwerthu a phwy sydd ddim, ac yn deall gofynion golygyddion comisiynu cyhoeddwyr.

Faint maen nhw’n ei godi? Dim i ddechrau yn achos asiant da – dim ffi darllen, dim ffi ymuno - ond bydd yn disgwyl comisiwn ar waith a roddir iddo, a bydd hynny rhwng 10% a 12.5%.

A allwn i ddefnyddio mwy nag un asiant? Ni fyddem yn cynghori hynny, ond nid yw’n torri unrhyw reol.

A fyddent yn fy helpu ag ymddangosiadau personol? Mae rhai Asiantau yn arbenigo yn hyn, ond mae angen ichi fod â chynnyrch da i’w werthu er mwyn iddynt eich derbyn.

Yng Nghymru mae gennym ddiwydiant cyhoeddi bychan, annibynnol lle mae pawb yn nabod ei gilydd. Wel, bron pawb. O ganlyniad, does dim Asiantau yn yr ystyr arferol. Bydd Asiantau Llenyddol Llundain yn gosod gwaith gyda chyhoeddwr yng Nghymru os teimlant fod hynny’n briodol.

Sut mae cael hyd i asiant? Mae rhestrau da yn The Writer’s Handbook, Macmillan ac yn Writers’ & Artists’ Yearbook, A&C Black. Anfonwch lythyr, gan gynnwys eich CV a rhai enghreifftiau o’ch gwaith. Os oes gennych nofel gyfan, anfonwch grynodeb a phennod enghreifftiol. Os oes gennych syniad ar gyfer gwaith ffeithiol nad yw wedi ei ysgrifennu eto, cynhwyswch amlinelliad ac ychydig o wybodaeth ategol sy’n egluro pam mai chi yw’r person gorau i ysgrifennu’r llyfr hwnnw. Dilynwch y cyngor ar gyflwyno llawysgrifau ac arhoswch. Peidiwch â phlagio. Peidiwch â phrocio. Os cewch eich gwrthod, ewch at rywun arall.

Dim ond cerddi a straeon byrion y bydda i’n eu hysgrifennu. A oes Asiant i mi yn rhywle? Go brin. Y drefn arferol yw bod ffuglen fer yn gwerthu os byddwch wedi cyhoeddi nofel yn gyntaf, ac nid yw barddoniaeth fyth yn gwerthu. O leiaf, nid yw’n gwerthu digon. Mae eithriadau i’r rheol hon wrth gwrs, ond nid Asiantau sy’n eu creu fel rheol.

Ond mae’r Academi yn Asiant, on’d ydy? Ddim mewn gwirionedd. Yr Academi yw Asiantaeth Lenyddiaeth Genedlaethol Cymru, ac mae hynny ychydig yn wahanol. Rydym yn cynnig llu o wasanaethau i awduron, sy’n amrywio o ddarparu gwybodaeth i gloriannu llawysgrifau. Ond nid ydym yn ymdrin â chyhoeddwyr ar ran awdur.