Gwybodaeth i Awduron

Wyddoch chi beth sy’n eiddo i chi?

Wyddoch chi beth sy’n eiddo i chi?  Syniad niwlog iawn sydd gan y rhan fwyaf o awduron. Yr erthygl yna werthoch chi i gyfnodolyn flynyddoedd maith yn ôl – mi dalon nhw amdani, felly nhw sy piau hi, yntê?  Eich cerdd yn rhifyn #106 Taliesin, y mae rhywun am ei chynnwys yn awr mewn blodeugerdd - mater i’r cyhoeddwyr yw rhoi caniatâd, yntê?  Wel, nid yn hollol.  Deddfau hawlfraint sy’n rheoli perchenogaeth ar gynnyrch awdur.  Yn y Deyrnas Unedig does dim angen i chi wneud dim i gofrestru hynny.  Wedi ichi ysgrifennu rhywbeth, chi biau’r hawlfraint fel mater o drefn.  Mae yna hawlfraint dros ffurf y geiriau a ddefnyddiwch, neu union frawddegau’r darn neu linellau’r gerdd, ond nid dros y syniadau y tu ôl iddynt.  Mae cynllun darn o waith yn rhydd rhag hawlfraint.  Felly hefyd syniadau.  Ond nid felly’r geiriau a ddefnyddir i roi ffurf iddynt.  Bydd yr hawlfraint dros eich geiriau’n parhau tra byddwch chi, ac wedi ichi farw bydd yn parhau fel ased sy’n eiddo i’ch ystâd am ddeg a thrigain o flynyddoedd yn rhagor.  Wedi hynny bydd y gwaith yn mynd yn eiddo cyhoeddus.  Gellir wedyn ei ddefnyddio heb ganiatâd na thâl.  Ewch i’ch siop lyfrau leol – yno cewch nofelau newydd clawr papur a’u prisiau’n amrywio o £5.50 i £15.00.  Gerllaw bydd silff o glasuron y byd a’r hawlfraint drostynt wedi dirwyn i ben, a bydd y rheiny’n gwerthu am y nesa peth i ddim.  Mae awduron y nofelau newydd fel rheol yn cael breindal.  Yn achos y clasuron, does dim arian yn newid dwylo.

Pan gynhwysir darn o waith awdur mewn cylchgrawn neu flodeugerdd mae’r cyhoeddwyr yn ei gael ar rent.  Byddant yn cael yr hyn a elwir yn hawlfraint cyfres gyntaf.  Mae ganddynt hawl i’w ddefnyddio unwaith.  Yn gyfnewid, os ydynt yn sefydliad proffesiynol efallai y byddant yn talu ffi i’r awdur neu, fel arall, yn rhoi copi am ddim iddo neu iddi.  Mae twyll a chafflo’n dechrau pan na fydd awdur yn cael na chopïau cyfarch o’r cylchgrawn y mae ei waith yn ymddangos ynddo na ffi, a phan ddisgwylir yn hytrach iddo dalu am gopi.  Os cewch gynnig tebyg i hyn, cyngor yr Academi yw ei wrthod.

Mae ystyriaeth debyg yn berthnasol i gyhoeddi llyfrau neu waith a gomisiynir ar gyfer y radio neu’r teledu.  Dylai cyhoeddwyr eich llyfr gynnig contract i chi a fydd naill ai’n talu blaendal sy’n swm tebyg i’r breindal y gallech ei ennill ar yr argraffiad cyntaf, neu’n cytuno i dalu’r breindal ichi ar ôl iddo gael ei ennill (h.y. trwy werthiant copïau).  Telir breindal yn flynyddol.  Mae rhai cyhoeddwyr yn cynnig cymysgedd o flaendal a breindal.  Swm o arian i ddechrau a’r gweddill i ddilyn.  Os yw’r cyhoeddwr yn fach iawn yn aml nid oes breindal o gwbl, ond telir yn hytrach trwy ewyllys da a chopïau am ddim.  Unwaith eto mae’r twyllo’n dechrau pan fydd y cyhoeddwr yn dechrau awgrymu efallai yr hoffech gyfrannu at gostau cynhyrchu.  Cymerwch ofal.  Nid talu yw lle’r awdur, ond cael ei dalu. Byddwch yn broffesiynol.

Pan gyrhaeddodd yr hyn a elwir yn hawliau digidol aeth yn draed moch ar ran helaeth o’r gyfundrefn hawlfraint a ddisgrifir uchod.  Mae’r hawliau hyn yn ymwneud â defnyddio gwaith awdur ar ffurf ddigidol yn hytrach nag mewn copi caled traddodiadol.  Gall hyn weithiau fod ar DVD neu CD-ROM ond fel rheol mae’n digwydd ar y rhyngrwyd.  Yr un ddeddf hawlfraint sylfaenol sy’n rheoli ymddangosiad barddoniaeth, erthyglau ac yn wir nofelau cyfan ar y we fyd eang ag sy’n rheoli copïau caled.  O leiaf, felly y dylai fod.  Ond mae’r arferion a welwn yn dangos bod pethau’n newid yn gyflym.

Mae llyfrgelloedd o amgylch y byd wrthi ar ras yn rhoi eu daliadau ar ffurf ddigidol.  Hynny yw, maen nhw’n trefnu bod y llyfrau ar eu silffoedd ar gael ar ffurf gyhoeddus hwylus trwy gyfrwng y rhyngrwyd.  Bellach does dim rhaid teithio i’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth a gwisgo menig gwynion i edrych ar dudalennau hynafol Brut y Tywysogion.  Mewngofnodwch ac mae’r holl dudalennau i’w gweld yn rhad ac am ddim a does dim rhaid poeni bellach am barcio eich car er mwyn eu gweld.  Crëwyd gwasanaeth i’r cyhoedd sy’n gwbl gydnaws â’r ysbryd a sefydlodd y gwasanaeth llyfrgelloedd cyhoeddus.  Ac ar ben hynny mae’r gwaith wedi hen fynd heibio’r cyfnod hawlfraint fel nad oes angen unrhyw ganiatâd na thalu ceiniog.
http://www.llgc.org.uk/index.php?id=chronicleoftheprincespeniar&L=1

Yn y Llyfrgell Farddoniaeth yn Llundain maent yn ceisio digido copïau cynrychioliadol o holl gylchgronau barddoniaeth Prydain.  Gellir gweld rhifynnau enghreifftiol cyfan o gylchgronau fel Iota, Ambit, Modern Poetry In Translation a Second Aeon ac, os oes angen, eu torri, eu pastio, eu hargraffu, eu llwytho ar ipod neu eu hanfon at ffrindiau, a’r cyfan yn gwbl rad ac am ddim. (http://www.poetrymagazines.org.uk/).  Mae’r llyfrgell wedi trefnu â chyhoeddwyr y cylchgrawn ac yna wedi cysylltu â deiliaid gwreiddiol yr hawlfreintiau, fel rheol awdur y cerddi dan sylw, ac wedi gofyn am ganiatâd i ddefnyddio’r gwaith.  Ni chynigiwyd ffioedd.  Roedd llawer o feirdd wrth eu bodd bod eu cerddi’n cael bywyd newydd ac yn falch o roi caniatâd iddynt gael eu defnyddio am ddim, am byth, ym mhob rhan o’r byd.  Mae eraill wedi dweud na, mai eu gwaith yw eu bywoliaeth, ac y byddai’n well ganddynt gael rhyw fath o dâl.  Os ceisiwch gael gweld eu tudalennau yn y Llyfrgell Farddoniaeth mae hysbysiad gwrthod hawlfraint yn ymddangos yn lle barddoniaeth.

Mae’r rhan fwyaf o gyfnodolion a llawer o flodeugerddi’n defnyddio gwaith heb ffurfioli’r berthynas gyhoeddi â’r awdur gwreiddiol.  Efallai y bydd llythyr yn dweud eu bod yn mynd i ddefnyddio’r gwaith.  Neu efallai y bydd y neges honno wedi ei chyfleu’n bersonol neu dros y ffôn.  Weithiau bydd llythyr gan y cyhoeddwr gyda siec yn gyplysedig.  Mae’r ffi fechan honno’n talu cost ‘rhentu’r’ gwaith gan y cylchgrawn ar yr un achlysur hwnnw.  Naill ai nid oedd hawliau digidol yn bodoli pan gyhoeddwyd y gwaith neu cawsant eu hanwybyddu.
Mae nifer o gyhoeddwyr llyfrau bellach yn edrych ar ffyrdd posibl o gynnig eu cynnyrch fel e-lyfrau, fersiynau electronig i’w lawrlwytho o’r gwaith argraffedig, y gellir eu darllen ar sgrin cyfrifiadur arferol, ar liniadur, ar ipac llaw, neu ar ddarllenydd e-lyfrau arbenigol neu, mewn rhai achosion, ar sgrin fechan ipod.  Mae technoleg yn camu ymlaen mor gyflym fel nad yw’r caledwedd eto wedi penderfynu pa lwybr yw’r gorau.  Ond mae cyhoeddwyr, sy’n wynebu dyfodol papur ac inc ansicr, wrthi fel lladd nadroedd yn arbrofi.  A yw eu contractau cyhoeddi yn cynnig tâl priodol i’w hawduron am y fersiynau electronig newydd hyn?  Pa amddiffyniad a gynigiant i awduron rhag troseddau?  Beth tybed a wna’r genhedlaeth lawrlwytho am ddim â llenyddiaeth o’r fath?  I fyny yn y seibr-ofod, does dim rheolaeth ar bethau.  Ac oherwydd y gall cyhoeddi electronig ymddangos yn afreal o edrych arno trwy lygaid traddodiadol, tybed a ddadleuir bod hyn i gyd yn rhy newydd ac yn fenter rhy ansicr i warantu talu arian?

Eleni (2007) mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn creu Cylchgronau Cymru, prosiect mawr i ddigido’r rhan fwyaf o gylchgronau llenyddol Cymru’r ugeinfed ganrif.  Nid rhifynnau enghreifftiol ond cyfresi cyfan, o rifyn 1 hyd 327.  Ni neilltuwyd unrhyw arian ar gyfer prynu hawlfreintiau awduron.  Yn wir, bydd clirio’r hawlfreintiau hynny (h.y. cael caniatâd i wneud copïau digidol) yn cael ei adael i raddau helaeth yn nwylo’r cyhoeddwyr sy’n cymryd rhan.  Caiff awduron yr hawl i ddweud na a pheidio â chymryd rhan, ond y gwir yw y bydd y rhan fwyaf yn dymuno cael eu cynnwys.  Bydd hyn yn gyfle i rai ohonynt weld gwaith blynyddoedd a fu yn ailymddangos i gael ei ailddarllen a’i gloriannu o’r newydd.  Mae llawer o awduron Cymru yn ysgrifennu am fod yn rhaid iddynt wneud, yn hytrach nag am arian.  Nid yw tâl mor bwysig â hynny iddynt.  Am ragor o wybodaeth ewch i http://www.llgc.org.uk/index.php?id=1457

Yn yr Academi rydym yn awyddus i Broffesiynoli ysgrifennu yng Nghymru.  Mewn cymdeithas sy’n ddigon cyfoethog i dalu am chwynnu gwelyau blodau a goleuo canol trefi bob awr o’r dydd, dylai awduron gael rhywbeth am eu gwaith hwythau.  Yn ystod yr holl broses ddigido bydd staff sy’n gweithio ar brosiect Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cael eu talu am eu gwaith.  Felly hefyd staff y noddwyr a Llywodraeth Cynulliad Cymru a JISC.  Bydd gweithlu gweinyddwyr y rhyngrwyd y caiff y prosiect terfynol ei gadw arnynt hefyd yn cael cydnabyddiaeth ariannol, ac felly hefyd berchenogion y llinellau ffôn y bydd y wybodaeth yn teithio ar hyd-ddynt a chynhyrchwyr y cyfarpar y bydd defnyddwyr yn ei ddefnyddio i edrych ar y prosiect.  Ond am grewyr y gweithiau sy’n cael eu darllen, yr holl reswm dros fodolaeth y fenter yn y lle cyntaf, fyddan nhw’n cael yr un geiniog.

Go brin y bydd cwyno mor hwyr â hyn yn y dydd yn newid rhyw lawer ar bethau.  Does dim rhagor o arian ar gael i dalu i awduron ac, yn wir, bydd llawer mor llawen o feddwl y bydd eu gwaith yn ailymddangos fel na fyddant am wneud dim i beryglu hynny.  Mae’n debygol y bydd ambell i Gymro neu Gymraes yn gwrthod caniatâd naill ai oherwydd y gallai cynnig eu gwaith am ddim ar y rhyngrwyd ei gwneud yn llai tebygol y bydd yn ymddangos yn y dyfodol mewn blodeugerddi papur ac inc, neu am y rheswm syml eu bod yn eu hystyried eu hunain yn weithwyr proffesiynol a’u bod yn dymuno cadw’r statws hwnnw.  Ond cytuno a wnaiff y rhan fwyaf.  A dyna glensio’r ddêl.

Ond rhywbeth arall yw’r dyfodol.  Go brin y daw digido ein llenyddiaeth i ben yn 2007.  Mae’n hanfodol i gyhoeddwyr ddechrau cynnwys hawliau digidol yn eu contractau ac i gyfnodolion geisio cyllid i gynnig tâl a allai gynnwys ymddangosiad digidol yn y dyfodol, ac i gontractau cyhoeddi gael eu creu sy’n mynd i’r afael â hyn.  Byddai gan yr Academi ddiddordeb mawr ym marn llenorion Cymru.

Ceir rhagor o wybodaeth am hawlfraint yn yr adran uchod - Hawlfraint, llên-ladrad, tor-hawlfraint a dyfynnu.

Peter Finch