Gwybodaeth gyffredinol

Llyfr y Flwyddyn



Dyfernir gwobrwyon Llyfr y Flwyddyn, a weinyddir gan yr Academi, yn flynyddol i’r gweithiau gorau yn y Gymraeg a’r Saesneg ym maesydd ysgrifennu creadigol a beirniadaeth lenyddol.      

Dyfernir y gwobrwyon i’r llyfrau gorau a gyhoeddwyd mewn blwyddyn galendr. Eleni, fe wobrwyir cyfrol Gymraeg a Saesneg a gyhoeddwyd yn ystod 2007.

Cyhoeddwyd Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2008 fel rhan o ddathliadau Diwrnod y Llyfr mewn dau ddigwyddiad paralel – y naill yn yr Atrium yng Nghaerdydd a’r llall yn Llyfrgell Wrecsam. 

Datgelir y Rhestr Fer o dair cyfrol Cymraeg a thair cyfrol Saesneg yng Ng?yl y Gelli nos Lun, 26 Mai. 

Gwobrwyir £10,000 yr un i’r ddau enillydd , yn ogystal â £1,000 yr un i’r pedwar a ddaw yn agos at y brig, mewn seremoni wobrwyo fawreddog yng Ngwesty’r Hilton, Caerdydd ar 1 Gorffennaf.