Gwyddoniadur

Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig

"Llyfr y bydd pob teulu o Gymry sydd â’u treftadaeth yn agos at eu calon am fod â chopi ohono" – dyna sut y diffiniwyd Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig gennym.  Efallai mai adlewyrchu statws economaidd a gwleidyddol Cymru yn y gorffennol y mae’r ffaith nad oes gwaith o’r fath yn bodoli eisoes - gyda dyfodiad datganoli a’r cynnydd mewn ymwybyddiaeth genedlaethol roedd y cyfle yn ei gynnig ei hun.  Gyda chymorth sylweddol gan Gyngor Celfyddydau Cymru drwy ei arian Loteri, mae’r gwaith ar y canllaw anhepgor hwn i bopeth yn ymwneud â Chymru bron â bod yn gyflawn.  Bu cefnogaeth parhaus Cyngor Celfyddydau Cymru i’r prosiect, o ran cymorth ariannol, brwdfrydedd ac anogaeth, yn sylweddol ac mae wedi’n galluogi ni i gwblhau’r prosiect ar ôl deng mlynedd o waith.

Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig

Mae’r gwaith a olygwyd gan John Davies, Nigel Jenkins, Menna Baines, a Peredur I. Lynch yn cynnwys dros 1200 o dudalennau wedi’u darlunio.  Cyhoeddwyd Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig gan Wasg Prifysgol Cymru ar y 31ain o Ionawr, 2008 ac mae copïau ar gael nawr.


Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig
fydd y cyfeirlyfr awdurdodol am Gymru, a bydd yn cynnwys cofnodau am y bobl a’r lleoedd a’i gwnaeth mor gyfoethog yn ddiwylliannol, hanesyddol a daearyddol.  O fynyddoedd Eryri i’r paith ym Mhatagonia, o arwyr gwerin i’r Cymry a ddisgleiriodd yn y Gemau Olympaidd, a’r gwŷr a’r gwragedd o Gymru sydd wedi rhagori mewn celfyddyd, diwylliant a gwleidyddiaeth.  Â thros 5,000 o gofnodau, mae hwn yn waith uchelgeisiol sy’n cynnwys pob agwedd ar orffennol Cymru, ei phobl, ei lleoedd, a’i chelfyddydau, ei diwydiant, ei hamgylchedd a’i thraddodiadau.


• Dyma’r gwyddoniadur cyntaf erioed am Gymru i’w gyhoeddi yn un gyfrol mewn fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân
• Mae’n darparu gwybodaeth sy’n hawdd cael hyd iddi ar unrhyw agwedd ar Gymru a bywyd Cymru, ddoe a heddiw
• Mae’n cynnwys dros 5,000 o gofnodau ynghyd â deunydd newydd nas cyhoeddwyd erioed o’r blaen
• Mae ynddo gyfraniadau gan dros 300 o awdurdodau blaenllaw yn eu meysydd
• Mae’n cynnwys dros 300 o ddarluniau
• Dyma’r cyfeirlyfr anhepgor am Gymru ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain


Cyhoeddwyd Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig yr un pryd â’r argraffiad Saesneg, The Welsh Academy Encyclopaedia of Wales, a gyhoeddir hefyd gan Wasg Prifysgol Cymru.

2008, tua 1200 tt. 245x164 mm, clawr caled £65.00
ISBN-13 978-0-7083-1953-6 ISBN-10 0-7803-1953-X

Gallwch brynu eich copi mewn siopau llyfrau lleol ac yng Nghanolfan Glyn Jones yr Academi.  Fel arall gallwch archebu copi’n uniongyrchol drwy Wasg Prifysgol Cyrmu ar eu gwefan, www.gwyddoniadurcymru.com neu drwy ffonio llinell Archebu’r  Gwyddoniadur: 029 2055 7451

Cyngor Celfyddydau Cymru

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Y Loteri Genedlaethol