Gwyddoniadur
Y Golygyddion
John Davies
Brodor o Gwm Rhondda yw John Davies. Fe’i haddysgwyd mewn ysgolion yn Nhreorci, Bwlch–llan a Thregaron ac yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, a Choleg y Drindod, Caergrawnt. Bu’n addysgu yng Ngholegau Prifysgol Abertawe ac Aberystwyth a bu am ddeunaw mlynedd yn Warden Neuadd Pantycelyn, Aberystwyth. Ymhlith ei gyhoeddiadau y mae Cardiff and the Marquesses of Bute, Hanes Cymru (Penguin, 1992), A History of Wales, Broadcasting and the BBC in Wales, The Making of Wales, The Celts a Cardiff: a Pocket Guide. Ef yw golygydd ymgynghorol Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig ac mae hefyd yn un o’r cyd-olygyddion. Yn 1997, ef oedd y prif siaradwr yng nghyfarfod agoriadol Cymdeithas Gogledd America er Astudio Hanes a Diwylliant Cymru. Mae wedi darlledu’n helaeth, yn enwedig ar destunau hanesyddol. Daw ei wraig o Flaenau Gwent ac mae ganddynt ddwy ferch a dau fab. Mae’n byw yn Grangetown, ond yn teithio’n ôl ac ymlaen yn fynych rhwng Caerdydd a’i ardd yng nghefn gwlad Ceredigion.
Menna Baines
Ganed Menna ym Mangor ond treuliodd ran dda o’i phlentyndod yn Llanerfyl, Sir Drefaldwyn, cyn symud i Ben-y-groes yn Arfon. Wedi graddio mewn Cymraeg ym Mangor a dilyn cwrs MPhil yno, bu’n gweithio yn y maes newyddiadurol am rai blynyddoedd – fel is-olygydd celfyddydol Golwg i ddechrau (1988–91) ac yna fel golygydd Barn (1991–6). Oddi ar 1996 bu’n gweithio ar ei liwt ei hun yn ysgrifennu, sgriptio a golygu. Cyhoeddodd ddwy gyfrol, sef Pum Awdur Cyfoes: Cyflwyniad i Fyfyrwyr Ail Iaith (1997) ac Yng Ngolau’r Lleuad: Ffaith a Dychymyg yng Ngwaith Caradog Prichard (2005), cyfrol a gyrhaeddodd restr hir Llyfr y Flwyddyn 2006
Nigel Jenkins
Ganed Nigel ar fferm ym Mhenrhyn Guyr a bu’n gweithio fel gohebydd papur newydd yng Nghanolbarth Lloegr cyn dychwelyd adref i weithio fel awdur a darlithydd llawrydd. Ei lyfr diweddaraf o gerddi yw Hotel Gwales (Gomer, 2006); enillodd ei lyfr am genhadon o Gymru yng ngogledd-ddwyrain India, Gwalia in Khasia (Gomer, 1995), wobr Llyfr y Flwyddyn ym 1996. Cyhoeddwyd ei ddetholiad o draethodau ac erthyglau, Footsore on the Frontier (Gomer Press), yn 2001. Disgwylir casgliad newydd o haiku, O For a Gun, ym mis Mehefin June 2007 gan Planet Books. Mae’n gweithio ar hyn o bryd ar Real Swansea i Seren Books. Mae’n athro ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Cymru Abertawe.
Peredur I. Lynch
Brodor o Garrog yn yr hen Sir Feirionnydd yw’r Athro Peredur I. Lynch. Ar ôl graddio yn y Gymraeg ym Mangor, bu’n Gymrawd Ymchwil yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth rhwng 1985 a 1990 ac yna’n ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru, Abertawe. Dychwelodd i’w hen adran yn ddarlithydd yn 1995. Fe’i dyrchafwyd yn Athro yn 2005 ac ef oedd Pennaeth Adran y Gymraeg rhwng 2003 a 2006. Y mae’n arbenigwr ar waith Beirdd y Tywysogion a chyfrannodd yn helaeth i Cyfres Beirdd y Tywysogion (1991–6). Y mae wedi cyhoeddi’n helaeth hefyd ar amryfal agweddau ar lenyddiaeth Gymraeg ar hyd y canrifoedd



