Gwyddoniadur
Darlithoedd y Gwyddoniadur
Mae Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig , a olygwyd gan Menna Baines, Nigel Jenkins, John Davies a Peredur I. Lynch, yn un o’r prosiectau cyhoeddi Cymreig mwyaf arwyddocaol, ac ar gael i’w brynu yma.
I ddathlu cwblhau’r fenter fawr hon, mae’r Academi’n cynnig cymorth ariannol i grwpiau sy’n dymuno trefnu darlithoedd naill ai am brosiect y Gwyddoniadur yn gyfan neu am unrhyw rai o’r miloedd o erthyglau unigol sy’n rhan o’r gwaith. Ceir rhestr lawn yn nhrefn yr wyddor o erthyglau a chyfraniadau yn yr adran hon, ond efallai yr hoffech ystyried rhai o’r canlynol: Jane Aaron ar lenyddiaeth a gwragedd llên, John B Hilling ar bensaernïaeth, Penri James ar amaethyddiaeth, Dave Berry ar ffilm, Gareth Williams ar chwaraeon, Peter Stead ar hanes neu Ivor Allchurch, Peredur Lynch ar waith golygu.
Bydd y rhai ohonoch sy’n gyfarwydd â’n cynllun Awduron ar Daith yn gwybod bod y drefn ynglyn â gwaith papur yn syml:
- bydd eich cais am gymorth yn ein cyrraedd o leiaf fis cyn eich digwyddiad [pythefnos yn achos digwyddiadau addysgol]
- os gallwn helpu, byddwn yn anfon ein gwaith papur arferol sy’n dweud wrthych am dalu’n llawn i’ch siaradwr ac yn rhoi ffurflen adrodd am ddigwyddiad ichi
- wedi ichi anfon eich ffurflen adrodd yn ôl, byddwn yn talu ein cyfraniad ni i chi a fydd hyd at hanner costau’r digwyddiad
- gallwch wneud cais ar lein isod, neu trwy’r post, e-bost neu ffacs



