Gwyddoniadur
A OES HEDDWCH?
Cwestiwn a ofynnir deirgwaith i gynulleidfa eisteddfodol yn ystod prif seremonïau’r Orsedd, gan gynnwys y cadeirio a’r coroni. Delir cledd rhannol-noeth uwchben y bardd neu’r llenor buddugol, ac fe’i gweinir pan geir yr ateb ‘Heddwch!’ am y trydydd tro (gw. hefyd Eisteddfod).