Gwyddoniadur
ABENBURY, Wrecsam (693ha; 718 o drigolion)
Mae’r gymuned hon, sydd i’r dwyrain o Wrecsam, yn cynnwys Stad Ddiwydiannol Wrecsam. Datblygwyd y stad ar safle Ffatri Ordnans Marchwiail (a sefydlwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd). Adeilad cwmni Weddel Pharmaceuticals yw ei adeilad hynotaf. Fe’i cynlluniwyd gan Colwyn Foulkes (1970), ac ef hefyd a oedd yn gyfrifol am stad dai ddeniadol Pentre Maelor (1952). Mae Cefn Park a Llwyn Onn yn dai bonedd sylweddol o’r 18g.