Gwyddoniadur

ABER[GWYNGREGYN], Gwynedd (2,970ha; 222 o drigolion)

Lleolir y gymuned hon rhwng Bangor a Llanfairfechan, ac mae ei thiriogaeth yn cynnwys basn afon Aber a’i hisafonydd, afon Anafon ac Afon Rhaeadr-fawr. Roedd yn lleoliad strategol ar y prif lwybr canoloesol ar draws y gogledd, a oedd yn ymestyn o’r Berfeddwlad ar draws afon Conwy yn Nhal-y-cafn a thrwy Gaerhun, ac yna o Aber ar draws Traeth Lafan i Fôn. Gyda llethrau ysgithrog y Penmaen-mawr a’r Penmaen-bach yn cynnig amddiffynfa i’r dwyrain, dyma safle un o hoff lysoedd tywysogion Gwynedd. Yma y bu farw Siwan, gwraig Llywelyn ap Iorwerth, yn 1237, a’u mab, Dafydd ap Llywelyn, yn 1246. Mae’n debyg mai yn Aber y cyfarfu Llywelyn ap Gruffudd â John Pecham, archesgob Caergaint, yn Nhachwedd 1282. Honnir bod olion y llys o dan blasty Pen-y-bryn (c.1600, c.1705) sydd erbyn hyn o dan ofal Ymddiriedolaeth Aber.

Dim ond ar drai yr oedd yn bosibl croesi Traeth Lafan. Roedd hon yn daith o 5km ar draws y tywod, a pharhaodd y fferi i groesi sianel ddofn Afon Menai, taith o 0.3km, hyd y 19g. Mae rhan helaeth o’r ardal yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Balm i’r enaid yw’r llwybr sy’n arwain at y Rhaeadr Mawr (35m), rhaeadr arbennig o drawiadol. Ceir nifer o olion cynhanesyddol yn yr ardal, yn garneddau, gweddillion cytiau ac olion caeau.