Gwyddoniadur
ABERAERON, Ceredigion (159ha; 1,520 o drigolion)
Hyd at 1807, nid oedd Aberaeron yn fawr ddim mwy na’r hyn yr oedd elfennau’r enw yn eu dynodi, sef aber afon Aeron. Yn y flwyddyn honno, sicrhaodd y sgweier a’r person, y Parchedig Alban Gwynne o Fonachdy (gw. Dyffryn Arth) ddeddf seneddol i greu harbwr newydd. Buan y datblygodd y lle yn ganolfan adeiladu llongau a mewnforio calch, glo a choed. Honnir yn aml mai John Nash a gynlluniodd y dref fach brydferth hon gyda’i thai stwco lliwgar, ond go brin fod hynny’n wir; mae’n fwy tebygol mai dylanwad y pensaer Edward Haycock o Amwythig sydd i’w weld ar ei chynllun. Ar ôl i’r fasnach forwrol edwino o 1870 ymlaen, gwnaed iawn am hynny gyda thwf llywodraeth leol a thwristiaeth. Daeth Aberaeron yn ganolfan weinyddol i’r cynghorau dosbarth trefol a gwledig a sefydlwyd yn 1894 (gw. Dosbarthau Trefol a Dosbarthau Gwledig) a daeth neuadd y dref yn fan cyfarfod i Gyngor Sir Ceredigion. Yn sgil ad-drefnu llywodraeth leol yn 1974, daeth Aberaeron yn brif ganolfan weinyddol dosbarth Ceredigion, swyddogaeth a ddaeth yn bwysicach fyth ar ôl adfer statws sirol yn 1996. Y rheilffordd i Lanbedr Pont Steffan (1911) oedd y rheilffordd gyhoeddus olaf i gael ei hadeiladu yng Nghymru; peidiodd â chludo teithwyr yn 1951. Oddi mewn i ffiniau’r gymuned ceir un o winllannoedd mwyaf gogleddol Cymru.