Gwyddoniadur
ABERAMAN, Rhondda Cynon Taf (1,688ha; 9,833 o drigolion)
Mae’r gymuned hon ar lan orllewinol afon Cynon, yn union i’r de o Aberdâr, yn cynnwys pentrefi Aberaman, Abercwmboi, Blaen-gwawr, Cwmaman a Godreaman. Mae olion ffwrnais o’r 16g. i’w gweld yng Nghwmaman. Dechreuodd y diwydiannu mawr yn 1845, pan sefydlwyd gwaith haearn Aberaman gan Crawshay Bailey (gw. Bailey, Teulu). Gan fod perygl llifogydd ar lawr Cwm Cynon, datblygodd Cwmaman ar lawr dyffryn Aman, un o isafonydd afon Cynon. Yn dilyn agor rheilffordd Aberdâr yn 1846, dechreuwyd cloddio am lo ar raddfa fawr, ac erbyn y 1860au roedd pum glofa yn y cyffiniau. Yn 1857 gwerthodd Bailey ei byllau glo i Gwmni Powell Duffryn, cwmni glo mwyaf Ewrop erbyn degawdau cynnar yr 20g.Roedd gan deulu Davis, a roddodd gychwyn ar ddiwydiannu ardal Ferndale (gw. Rhondda, Y), gysylltiad â Blaen-gwawr. Mae gan Bethesda (1864), capel y Bedyddwyr yn Abercwmboi, ffasâd clasurol hardd. Un o nodweddion amlycaf y pentref yw neuadd gyhoeddus ac institiwt Aberaman (1909); mae’r institiwt yn Abercwmboi (1913) yn llai o faint. Wedi tranc y diwydiant glo, prif gyflogwr yr ardal yw stad ddiwydiannol fawr. Ym marn yr Observer, y gwaith furnacite, a gaeodd yn 1990, oedd ‘ffatri futraf Prydain’.


