Gwyddoniadur

ABERDARON, Gwynedd (4,764ha; 1,019 o drigolion)

Mae tiriogaeth y gymuned hon yn cynnwys y rhan fwyaf gorllewinol o Lwn, ynghyd ag Ynys Enlli, Ynys Gwylan-fawr ac Ynys Gwylan-bach (gw. Ynysoedd). I Eglwys Sant Hywyn, sy’n adeilad gyda dwy eil a godwyd yn y 12g. a’r 13g, y deuai’r pererinion i weddïo cyn cychwyn o Borth Meudwy ar eu taith fer ar draws y môr garw am Ynys Enlli. Ger yr eglwys mae clwstwr o adeiladau atyniadol a gynlluniwyd gan Clough Williams-Ellis. ar y Mynydd Mawr ceir ‘cytiau Gwyddelod’ o’r Oes Haearn ynghyd â golygfa wych o Ynys Enlli a’r Swnt. Mae’r dibyn (162m) o ben creigiau Braich y Pwll i’r môr ymysg y mwyaf ar arfordir Cymru.

Bodwrdda, neu Bodwrda, tw cerrig o’r 16g., yw prif blasty’r ardal. Tua 1616 ychwanegwyd adain o frics coch ato, deunydd adeiladu anghyffredin iawn yn Sir Gaernarfon bryd hynny. Cymerodd y teulu – roedd y copïydd llawysgrifau, Wiliam Bodwrda (1593–1660) yn un ohonynt – enw’r tw yn gyfenw. Diflannodd y cyfenw o Gymru, ond goroesodd yng Ngogledd America ar y ffurf Bodurda. Mae Plas yn Rhiw, sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn dw o’r  17g. gyda feranda golofnog o’r 19g. ar ei du blaen. Gerllaw mae eglwys ganoloesol Sant Maelrhys. Wrth gerdded ar hyd y traeth ym Mhorthor gellir clywed chwibaniad enwog y tywod a roddodd fod i’r enw Saesneg Whistling Sands. Yn 1921 roedd plwyf Bodferin – sef rhan ogleddol y gymuned bresennol – yn unigryw ymysg plwyfi Cymru gan nad oedd neb yno a allai siarad Saesneg.

Yn Aberdaron y ganed y crwydryn amryddysg Dic Aberdaron (Richard Robert Jones). Canodd nifer o feirdd Cymru am y lle, yn eu plith Cynan (Albert Evans-Jones) a T. Rowland Hughes. Bu Brenda Chamberlain, yr arlunydd ac awdur Tide Race (1962), yn byw am gyfnod ar Ynys Enlli, a bu’r bardd R. S. Thomas yn ficer Aberdaron o 1967 hyd 1978.