Gwyddoniadur
ABERDAUGLEDDAU, Dyfrffordd, Sir Benfro
Yn ôl chwedl ‘Culhwch ac Olwen’ yn y Mabinogion, ymwelodd neb llai na’r Brenin Arthur ag Aberdaugleddau. Ria neu ddyffryn soddedig yw’r hafan, a chafodd ei ffurfio wrth i lefel y môr raddol godi yn dilyn enciliad llenni iâ’r Oes Iâ ddiweddaraf. Daeth i’w ffurf bresennol c.7,000 o flynyddoedd yn ôl, wedi i’r môr foddi rhannau isaf Cleddau Wen a Chleddau Ddu, sef y rhannau islaw cymer y ddwy afon. O ganlyniad, mae’r llanw yn cyrraedd cyn belled â Hwlffordd, 36km o geg yr aber. Yn y foryd mae amrediad y llanw oddeutu 7.5m ac mae rhan orllewinol y sianel dros 18m o ddyfnder.Ni ddatblygwyd posibiliadau llyngesol a masnachol y ddyfrffordd hyd y 1790au, pan sefydlodd William Hamilton dref Aberdaugleddau ar ei glannau. Ar achlysur ei ymweliad yn 1802, roedd Horatio Nelson o’r farn fod yr harbwr ymhlith dyfrffyrdd gorau’r byd ac yn ail i Trincomalee yn Sri Lanka (Ceylon) yn unig. Roedd ei sylw yn hwb i sefydlwyr Dociau Brenhinol Doc Penfro yn 1814. Yn y 1860au arweiniodd y pryder parthed ymosodiad posibl o’r môr at adeiladu caerau Aberdaugleddau (gw. Ffoleddau Palmerston). Cynyddodd y defnydd masnachol yn ystod y 1960au pan roddwyd ar waith gynlluniau i ddatblygu Aberdaugleddau yn brif borthladd olew Prydain.


