Gwyddoniadur
ABERDYFI, Gwynedd (1,128ha; 781 o drigolion)
Cymuned ar ochr ogleddol aber afon Dyfi. Yma yn 1216, yn ôl Brut y Tywysogyon, y llywyddodd Llywelyn ap Iorwerth dros gyfarfod lle rhannwyd cantrefi Deheubarth rhwng meibion Rhys ap Gruffudd (yr Arglwydd Rhys; m.1197). Yn yr 16g. roedd Aberdyfi’n borthladd pysgota prysur; yn ddiweddarach allforid cynnyrch gwlân, llechi a phlwm a mewnforid halen, glo, calch a blawd. Bu mynd mawr ar adeiladu llongau, yn arbennig rhwng 1850 ac 1880. Erbyn dechrau’r 20g., wrth i Aberdyfi ddod yn ganolfan wyliau bwysig, roedd twristiaeth wedi disodli gweithgaredd y porthladd. Ond cedwir y cysylltiadau â’r môr gan Amgueddfa’r Môr a’r Ysgol Forwrol Awyr Agored a sefydlwyd yn 1941. Mae’r cwrs golff (1892) ymysg y gorau yng Nghymru. Yn 1927 ceisiodd un Sabatholwr saethu ar antur at y rhai a ddefnyddiai’r cwrs ar y Sul. Roedd y bardd Ieuan Dyfi (fl.1490–1510) yn frodor o Aberdyfi, a daeth y lle yn dra hysbys yn sgil y gân ‘Clychau Aberdyfi’. Bu’r nofelwyr Oliver Onions (1873–1961) a Berta Ruck (1878–1978) – priodasant ei gilydd yn 1909 – yn byw yn Aberdyfi o 1939 ymlaen, ac mae llawer o’u gwaith wedi’i leoli yng Nghymru.