Gwyddoniadur
ABER-FAN, Trychineb
Yn draddodiadol, câi gwastraff o lofeydd ei gludo i’r wyneb a’i osod ar dipiau, a’r rheini weithiau ar gopaon bryniau. Trodd peryglon posibl y fath dipiau i’r rheini a drigai dan eu cysgod yn erchyll o real ar ddydd Gwener, 21 Hydref 1966.Am oddeutu 9.15 y bore hwnnw, a’r plant newydd gofrestru yn ysgol gynradd Pant-glas, Aber-fan, fry ar y llechweddau uwchlaw dechreuodd y domen lo a ddefnyddid gan lofa Merthyr Vale symud. Llithrodd y gwastraff gwlyb, a ansefydlogwyd gan ddyfroedd ffynnon danddaearol, i lawr llethrau’r cwm ac ymhen ychydig funudau gorchuddiwyd fferm, yr ysgol gynradd gyfan, rhan o ysgol uwchradd gyfagos (nad oedd yn agor ei drysau tan 9.30 a.m.) a 20 o dai dan wastraff y lofa. O’r 144 o bobl a fu farw, roedd 116 yn blant ysgol, 7 i 10 oed gan mwyaf. Roedd Cymru wedi profi trychinebau diwydiannol a hawliodd fywydau mwy o lawer o bobl, ond roedd rhywbeth unigryw o dorcalonnus yn y ffaith fod cenhedlaeth gyfan bron o blant wedi’i cholli yn nhrychineb Aber-fan.
Darlledwyd a chyhoeddwyd lluniau o’r drychineb ledled y byd, gan ddwyn i sylw pobl na wyddent odid ddim am godi glo yr erchyllterau a allai fod yn gysylltiedig â’r diwydiant hwnnw. Yn sgil y gyflafan, newidiodd agwedd yr awdurdodau tuag at y fath dipiau, gan arwain at reolaeth well ac at eu gwaredu a’u gwastatáu yn gyfan gwbl yn aml, pan ddaeth oes y pyllau i ben. Fodd bynnag, cythruddwyd llawer pan wrthododd y Bwrdd Glo Cenedlaethol a’r Trysorlys dderbyn cyfrifoldeb ariannol llawn am y drychineb, gan orfodi Cronfa Trychineb Aber-fan – a oedd wedi derbyn £1.75 miliwn – i gyfrannu £150,000 tuag at waredu gweddill y tipiau yn Aber-fan; ni chafodd yr arian hwn ei ad-dalu i’r gronfa hyd 1997. (Am Aber-fan, gw. Merthyr Tudful: Ynysowen.)


