Gwyddoniadur

ABERFFRAW, Ynys Môn (2,955ha; 608 o drigolion)

Mae twyni tywod Aberffraw (Berffro ar lafar) yn amlwg iawn yn y gymuned hon ar arfordir de-orllewinol Môn. Yn y testunau cyfreithiol disgrifir Aberffraw fel ‘eisteddfa arbennig’ llinach Gwynedd. Er mwyn pwysleisio ei statws unigryw ymhlith rheolwyr Cymru, mabwysiadodd Llywelyn ap Iorwerth y teitl Tywysog Aberffraw yn 1230, ac yn 1377 pwysleisiodd cefnogwyr Owain ap Thomas (Owain Lawgoch) ei ‘fonedd o Aberffraw’. Diau y buasai gan Aberffraw gaer, eglwys, llys a thaeogdref o’r dyddiau cynharaf. Yn ôl pob tebyg, safai’r llys brenhinol ar gopa’r un bryn ag y saif Eglwys Sant Beuno arno hyd heddiw. Mae gan yr eglwys ddrws Romanésg sy’n dyddio, o bosibl, o gyfnod teyrnasiad Gruffudd ap Cynan.

Barclodiad y Gawres yw’r enghraifft wychaf yng Nghymru o gromlech adferedig yn nhraddodiad Dyffryn Boyne, Iwerddon. Codwyd y siambr gladdu hon c.3000 cc; y patrymau cerfiedig ar rai o’i meini yw’r enghreifftiau cynharaf yng Nghymru o waith celf addurnol. Llai trawiadol yw cromlech Din Dryfol. Porth Trecastell (Cable Bay) oedd pen Prydeinig y cebl telegraff cyntaf ar draws yr Iwerydd. Dim ond ar drai y gellir cyrraedd Eglwys Sant Cwyfan (12g.). Parheid i gynnal llys y faenor yn Aberffraw am ran dda o’r 20g. er mwyn pennu hawliau pori ar y twyni tywod. Ceir trac rasio beiciau modur yn Nhw-croes. Roedd cantref Aberffraw, a oedd yn cwmpasu y rhan fwyaf o orllewin Môn, yn cynnwys cymydau Llifon a Malltraeth (gw. hefyd Cwmwd).