Gwyddoniadur
‘ABERGELE, Merthyron’
Ar fore seremoni arwisgo Tywysog Cymru yng Nghaernarfon ar 1 Gorffennaf 1969, lladdwyd yn Abergele ddau ?r ifanc, Alwyn Jones (1947–69) a George Taylor (1933–69), a oedd yn gysylltiedig â Mudiad Amddiffyn Cymru. Yr oeddynt ar fin ymosod ar un o adeiladau’r llywodraeth, ond ffrwydrodd eu bom yn gynamserol. Honnwyd mai hwy oedd y Cymry cyntaf i farw dros Gymru ers Gwrthryfel Glynd?r.