Gwyddoniadur
BACON, Anthony (1718-86) Perchennog gweithfeydd haearn
Ganed Bacon yn Cumberland, ac ef oedd un o’r entrepreneuriaid cyntaf i wireddu potensial y diwydiant haearn ym Merthyr Tudful. Gyda William Brownrigg, agorodd efail yng Nghyfarthfa yn 1765 ac yno addasodd batent John Wilkinson ar gyfer tyllu canonau a wnaed o fariau soled. Rhoddodd y marchnadoedd a grëwyd gan Ryfel Annibyniaeth America gryn fantais i Gyfarthfa, yn enwedig ar ôl i Richard Crawshay (gw. Crawshay, Teulu) ymuno â’r bartneriaeth yn 1778. Prydlesodd Bacon diroedd a hawliau mwyngloddio hefyd er mwyn sefydlu gweithfeydd haearn Plymouth yn 1777 a Hirwaun yn 1780.