Gwyddoniadur

BADAU ACHUB

Cyn dechrau darparu badau achub o amgylch arfordir Cymru yn gynnar yn y 19g., mater o hap a damwain oedd achub bywydau ar y môr. Yn y 1770au, er enghraifft, rhwyfodd gwraig o’r enw Mrs Williams o Dyddewi allan ar ei phen ei hun i achub morwyr o Sweden yr oedd eu llong wedi’i dryllio ar graig anghysbell.

Yn y 1790au yr adeiladwyd y badau achub pwrpasol cyntaf, ac roedd badau achub, y talwyd amdanynt yn rhannol ag arian gan Lloyds, Llundain, i’w cael yng Nghaergybi yn 1808, Abermaw yn 1813 ac Abergwaun yn 1822. Arweiniodd dryllio’r Alert yn 1823, a cholli 145 o fywydau oddi arni, at ffurfio The Anglesey Association for the Preservation of Life from Shipwreck, ac yn dilyn hynny gosodwyd chwe bad achub o amgylch yr ynys (gw. Cylch y Garn). Yn 1824 cydnabuwyd yr angen am gorff i gwmpasu holl wledydd Prydain pan ffurfiwyd y National Institution for the Preservation of Life from Shipwreck, a newidiodd ei enw yn 1854 i’r Royal National Lifeboat Institution (Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub) (RNLI). Mae’r RNLI yn dibynnu’n llwyr ar gyfraniadau gwirfoddol a gwirfoddolwyr lleol yw criwiau’r badau. Mae 31 o orsafoedd badau achub yng Nghymru.