Gwyddoniadur

BANGLADESHIAID

Yn 2001 roedd yng Nghymru 5,436 o bobl o dras Bangladeshaidd, ac roedd 38% ohonynt wedi’u geni yng Nghymru. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn byw yn ardal Bae Abertawe, Casnewydd a Chaerdydd, gydag eraill wedi’u gwasgaru ledled y wlad. Ymfudodd y rhan fwyaf o’r genhedlaeth gyntaf i Gymru o ganol y 1960au ymlaen, a hynny o drefi cynhyrchu tecstilau yn Swydd Gaerhirfryn a Swydd Efrog. Deuent yn bennaf er mwyn gweithio yn y maes arlwyo, gyda’r mwyafrif yn wreiddiol o ardal Sylhet yng ngogledd-ddwyrain Bangladesh, ardal lle bu cenhadaeth gan y Methodistiaid Calfinaidd (gw. Bryniau Casia). Yn 2001 roedd tua 5,000 o Fangladeshiaid Cymru yn disgrifio’u hunain fel dilynwyr Islam. Mae’n gymuned hynod o ifanc, gyda 39% o’i haelodau dan 16. Y mae hefyd yn un o’r cymunedau mwyaf difreintiedig. O blith y rhai hynny sydd o oedran gweithio, dim ond 53% o’i haelodau sy’n economaidd hyfyw, y raddfa isaf ymhlith holl gymunedau ethnig Cymru a ffigur sydd yn is o lawer na’r raddfa ar gyfer Cymru gyfan (75%). Mae’n bosibl mai graddfa ddiweithdra anarferol o uchel ymhlith menywod (21%) sydd i gyfrif amdano. Mewn gwrthgyferbyniad, mae 83% o wrywod Bangladeshaidd yn economaidd hyfyw – ffigur sydd rhyw ychydig yn uwch na’r raddfa ymhlith gwrywod ar gyfer Cymru gyfan (82%). Er hynny, Bangladeshiaid Cymru sydd â’r raddfa isaf o bobl yn byw yn eu tai ar eu pennau eu hunain a’r raddfa uchaf o anheddau a rennir gan fwy nag un teulu; hwy hefyd sy’n fwyaf tebygol o fod yn byw mewn tai gorlawn (26%). Mae 67.7% yn berchen eu tai, ond mae 36% o deuluoedd Bangladeshaidd heb ddefnydd car neu fan modur.