Gwyddoniadur
CAERGRAWNT A CHYMRU
Yn wahanol i Rydychen, nid oedd gan Gaergrawnt gysylltiad arwyddocaol â Chymru hyd ddiwedd yr Oesoedd Canol, pan gofnodir bod ambell Gymro yn astudio yno, megis y dyneiddiwr Richard Gwent (m.1543). Roedd pellter y lle o Gymru, a’r ffaith nad oedd gan yr un coleg yno gysylltiad nawdd â Chymru, yn golygu nad oedd y sefydliad yn ddeniadol i fyfyrwyr Cymreig. Newidiodd hyn adeg teyrnasiad Harri VII pan roddodd mam y brenin, Margaret Beaufort, ei nawdd i Goleg y Breninesau ac i’r coleg a sefydlwyd ganddi, sef Coleg Sant Ioan.Oherwydd fod gan Margaret, fel gwraig Syr William Stanley (gw. Stanley, Teulu), fuddiannau sylweddol yng ngogledd-ddwyrain Cymru, daeth y colegau hyn i ddangos ffafriaeth i fyfyrwyr o’r parthau hynny. Clustnodwyd rhai ysgoloriaethau a chymrodoriaethau ar gyfer Cymry a bu hyn yn abwyd i ddenu nifer o wwr ifainc o’r gogledd yn gyffredinol. Cryfhawyd y cysylltiad Cymreig yn sgil y gwaddol a adawyd i Goleg Sant Ioan yn 1574 yn ewyllys John Gwyn (m.1574), cyfreithiwr sifil o Drefriw a oedd wedi’i addysgu yno. Sefydlwyd ysgoloriaethau ar gyfer disgyblion ysgolion Bangor a Rhuthun gan roddi mantais ychwanegol i fyfyrwyr y gogledd yng Nghaergrawnt, trefn a oroesodd hyd y 19g.
Chwaraeodd Caergrawnt ran arbennig yn y Dadeni Dysg a’r Diwygiad Protestannaidd yng Nghymru. Cyfrannodd rhai o’i graddedigion Cymreig yn fawr i gynnydd crefyddol a diwylliannol Cymraeg y cyfnod, megis Gabriel Goodman, Edmwnd Prys ac yn enwedig yr esgob William Morgan. Roedd Caergrawnt hefyd yn feithrinfa i Biwritaniaid Cymreig, megis John Penry, a rhai Anglicaniaid Cymreig blaenllaw, megis John Williams, archesgob Caerefrog (1582–1650).
Parhaodd ychydig o fyfyrwyr Cymreig i fynychu’r brifysgol yn y canrifoedd dilynol gan fynd ymlaen i ennill bywoliaethau yng Nghymru. Yn dilyn diwygio’r prifysgolion yn y 1870au, agorwyd y drysau led y pen i Anghydffurfwyr (gw. Anghydffurfiaeth), ac ymestynnwyd amryw o’r ysgoloriaethau colegol i fyfyrwyr galluog o ba bynnag gefndir neu ran o’r wlad y deuent. O ganlyniad, addysgwyd nifer o Gymry amlwg yn y brifysgol, megis R. D. Roberts, Athro daeareg yng Nghaergrawnt, y gwleidydd Ellis Jones Griffith a’r hanesydd R.T. Jenkins. Mae’r cwrs Eingl-Sacsoneg, Norseg a Chelteg yn parhau yn feithrinfa bwysig i ysgolheigion ym maes astudiaethau Celtaidd. Sefydlwyd cymdeithas Gymraeg Caergrawnt, Cymdeithas y Mabinogi, yn y 1930au. Cedwir yn llyfrgell y brifysgol rai o’r engreifftiau cynharaf o Gymraeg ysgrifenedig.



